Sut ydw i’n gweld aseiniadau neu fyfyrwyr yn unigol yn y Llyfr Graddau?
Mae Gwedd Unigol y Llyfr Graddau yn gadael i addysgwyr asesu un myfyriwr ac un aseiniad ar y tro. Mae’r wedd Llyfr Graddau hon sy’n gwbl addas i ddarllenwyr sgrin yn gadael i addysgwyr roi trefn yn ôl adran ac aseiniad ac mae’n cynnwys llawer o'r gosodiadau sydd ar gael yn y Llyfr Graddau. Nid oes modd delio â pholisïau hwyr, polisïau postio a rhai opsiynau trefnu a hidlo yn y Wedd Unigol ar hyn o bryd.
Fel pob tab Llyfr Graddau (Gradebook), mae’r Wedd Unigol yn barhaus. Unwaith y byddwch chi’n newid y Llyfr Graddau i’r Wedd Unigol, bydd y Llyfr Graddau yn ymddangos yn y Wedd Unigol bob tro nes ei fod yn cael ei newid yn ôl i’r wedd ddiofyn.
Nodyn: Os yw eich cwrs yn cynnwys mwy nac un graddiwr, unwaith y byddwch chi’n agor y Llyfr Graddau, cofiwch fod holl ddata’r Llyfr Graddau sy’n bodoli’n barod yn cael ei storio yn y porwr nes bod y dudalen yn cael ei hadnewyddu. Dydy graddau ddim yn cael eu diweddaru’n ddeinamig gyda newidiadau a wnaed gan raddwyr eraill yn y Llyfr Graddau neu SpeedGrader.
Agor Llyfr Graddau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Graddau (Grades).
Newid i’r Llyfr Graddau Unigol
Cliciwch y ddewislen Llyfr Graddau (Gradebook) [1], wedyn clicio’r ddolen Llyfr Graddau Unigol (Individual Gradebook) [2].
Dewis Adran
Yn y gwymplen Dewis adran (Select a section), dewiswch yr adran rydych chi am ei gweld.
Dewis Cyfnod Graddio
Pan fydd Mwy nag un Cyfnod Graddio wedi’i alluogi mewn cwrs, dewiswch y cyfnod graddio rydych chi am ei weld yn y gwymplen Dewis cyfnod graddio (Select a Grading Period).
Nodyn: Dim ond yn y cyfnod graddio presennol neu mewn cyfnod graddio yn y dyfodol y gallwch chi reoli graddau ar gyfer aseiniadau. Unwaith y mae’r dyddiad cau ar gyfer cyfnod graddio wedi mynd heibio, allwch chi ddim golygu graddau ar gyfer y cyfnod graddio blaenorol.
Trefnu Aseiniadau
Yn y gwymplen Trefnu aseiniadau [1], dewiswch sut i drefnu aseiniadau. Gallwch drefnu yn ôl grŵp a lleoliad [2], yn ô trefn yr wyddor [3], neu yn ôl dyddiad erbyn [4].
Dewis Gosodiadau Llyfr Graddau
Dewiswch unrhyw osodiadau rydych chi am eu dangos yng Ngwedd Unigol y Llyfr Graddau.
I roi gradd o 0 i aseiniadau sydd heb eu graddio, ticiwch y blwch Trin Aseiniadau heb eu graddio fel 0 (Treat Ungraded Assignments as 0) [1].
I guddio enwau myfyrwyr, ticiwch y blwch Cuddio Enwau Myfyrwyr (Hide Student Names) [2]. I ddangos ymrestriadau sydd wedi’u dirwyn i ben, ticiwch y blwch Dangos ymrestriadau sydd wedi’u dirwyn i ben [3].
I ddangos y Golofn Nodiadau yn yr adran Gwybodaeth Myfyrwyr, ticiwch y blwch Dangos nodiadau sydd yn y wybodaeth am y myfyriwr (Show Notes in Student Info) [4]. I ddangos cyfansymiau fel pwyntiau yn hytrach na chanrannau, ticiwch y blwch Dangos cyfanswm fel pwyntiau ar dudalen graddau myfyrwyr (Show Totals as Points on Student Grade Page) [5].
Sylwch:
- Mae'n bosib fod yr opsiwn Trin Aseiniadau heb eu graddio fel 0 wedi ei gyfyngu os oes mwy nag un cyfnod graddio wedi’i alluogi
- Dydy'r opsiwn Dangos Cyfansymiau fel Pwyntiau ar Dudalen Graddau Myfyrwyr ddim ond ar gael os ydych chi'n defnyddio grwpiau aseiniadau heb eu pwysoli ar eich cwrs
Gallwch hefyd ddewis gosodiadau Llyfr Graddau ychwanegol drwy glicio’r botwm cyfatebol:
I lwytho sgorau i lawr mewn ffeil CSV, cliciwch y botwm Llwytho Sgorau Presennol i Lawr (Download Current Scores) [1].
I lwytho sgorau i fyny mewn ffeil CSV, cliciwch y botwm Llwytho Sgorau i Fyny (Upload Scores) [1].
I weld hanes newidiadau graddio, cliciwch y ddolen Gweld Hanes Llyfr Graddau (View Gradebook History) [3].
Dewis Myfyriwr
Yn y gwymplen Dewis myfyriwr (Select a student) [1], dewiswch enw'r myfyriwr yr ydych am weld ei wybodaeth. Os ydych chi am weld yr holl fyfyrwyr gan ddechrau â’r myfyriwr cyntaf ar eich cwrs neu adran, cliciwch y botwm Myfyriwr Nesaf (Next Student) [2]. I ddychwelyd i'r myfyriwr blaenorol, cliciwch y botwm Myfyriwr Blaenorol (Previous Student) [3].
Bydd enwau myfyrwyr yn cael eu trefnu yn ôl eu cyfenw ac yn cael eu dangos yn unol â'ch dewisiadau yn y gwymplen Gosodiadau Cyffredinol.
Dewis Aseiniad
Yn y gwymplen Dewis aseiniad (Select an assignment) [1], dewiswch yr aseiniad rydych am ei weld gan y myfyriwr. Os ydych chi am weld yr aseiniad cyntaf yn eich cwrs, cliciwch y botwm Aseiniad Nesaf (Next Assignment) [2]. I weld yr aseiniad blaenorol, cliciwch y botwm Aseiniad Blaenorol (Previous Assignment) [3].
Bydd aseiniadau yn cael eu dangos yn unol â'ch dewis trefnu yn y gwymplen Gosodiadau Cyffredinol.
Gweld Gwybodaeth Llyfr Graddau
Ar ôl i chi ddewis myfyriwr ac aseiniad, bydd yr adrannau Graddio (Grading), Gwybodaeth Myfyriwr (Student Information), a Gwybodaeth am Aseiniad (Assignment Information) yn dangos yr holl gynnwys sy’n cyfateb. Sgroliwch i lawr y dudalen i weld pob un o'r adrannau hyn. Gallwch ailymweld â gosodiadau’r Llyfr Graddau ar unrhyw adeg i guddio a dangos gosodiadau.
Yn yr adran Raddio, gallwch reoli'r radd ar gyfer yr aseiniad a'r myfyriwr dan sylw.
I newid gradd myfyriwr, rhowch y radd yn y maes Gradd (Grade) [1]. I esgusodi'r aseiniad, ticiwch y blwch Esgusodi’r aseiniad hwn ar gyfer y myfyriwr dan sylw (Excuse This Assignment for the Selected Student) [2].
I weld manylion y cyflwyniad, cliciwch y botwm Manylion y Cyflwyniad (Submission Details) [3].
Gweld Manylion Cyflwyniad
Mae'r dudalen Manylion Cyflwyniad yn dangos gradd yr aseiniad [1], dyddiad ac amser cyflwyno [2], ac unrhyw ffeiliau sydd wedi'u cyflwyno [3]. I weld rhagor o fanylion, cliciwch y botwm Rhagor o fanylion yn SpeedGrader (More details in the SpeedGrader) [4].
I newid y radd, rhowch y radd yn y maes Gradd a chlicio'r botwm Diweddaru Gradd (Update Grade) [5].
I ychwanegu sylw ar gyfer y myfyriwr, rhowch y sylw yn y maes Ychwanegu Sylw (Add a Comment) [6] a chlicio'r botwm Postio Sylw (Post Comment) [7].
Gweld Gwybodaeth Myfyriwr
Mae'r adran Gwybodaeth Myfyriwr yn dangos enw'r myfyriwr [1], ail ID [2], ac adrannau cwrs [3]. I agor tudalen Graddau myfyriwr, cliciwch enw’r myfyriwr.
Os ydy'r opsiwn Dangos nodiadau sydd yn y wybodaeth am y myfyriwr wedi cael ei ddewis yn y Gosodiadau Cyffredinol, bydd yr adran Gwybodaeth Myfyriwr hefyd yn dangos y maes Nodiadau (Notes) [4].
Yn y tabl Graddau [5], gallwch weld graddau ar gyfer pob grŵp aseiniad. Pan fydd cyfnodau graddio wedi’u pwysoli a’r opsiwn pob Cyfnod Graddio wedi’i ddewis, mae’r adran Graddau yn dangos pwysoliad pob cyfnod graddio.
Mae'r tabl Graddau hefyd yn dangos gradd derfynol y myfyriwr [6]. Efallai na fydd y radd derfynol ar gael pan mae mwy nag un cyfnod graddio wedi’i alluogi.
Gweld Gwybodaeth Aseiniad
Mae'r adran Gwybodaeth Aseiniad yn gadael i chi reoli gosodiadau a gweld gwybodaeth ar gyfer yr aseiniad cyfan.
I agor y dudalen manylion aseiniad, cliciwch enw’r aseiniad [1]. I agor yr aseiniad yn SpeedGrader, cliciwch y ddolen Gweld yr aseiniad hwn yn SpeedGrader (See this assignment in SpeedGrader) [2].
I lwytho pob cyflwyniad i lawr, cliciwch y botwm Llwytho pob cyflwyniad i lawr (Download all submissions) [3].
Gallwch hefyd weld y math o gyflwyniad sydd wedi cael ei alluogi ar gyfer yr aseiniad [4], nifer y cyflwyniadau wedi'u graddio [5], nifer y pwyntiau posib [6], sgôr cyfartalog [7], sgôr uchaf [8], a sgôr isaf [9].
I anfon neges at fyfyrwyr sy'n bodloni meini prawf penodol, cliciwch y botwm Anfon Neges at Fyfyrwyr sydd (Message Students who) [10].
I osod gradd ddiofyn ar gyfer yr aseiniad,, cliciwch y botwm Gosod gradd ddiofyn (Set default grade) [11]. I grymu graddau ar gyfer yr aseiniad, cliciwch y botwm Crymu Graddau (Curve Grades) [12].
Nodyn: Ni fydd y botwm Anfon Neges at Fyfyrwyr sydd i'w weld os ydych chi'n edrych ar aseiniad dienw.
Newid i’r Llyfr Graddau Traddodiadol
I newid i'r Llyfr Graddau Traddodiadol, cliciwch y gwymplen Llyfr Graddau (Gradebook) [1] a dewis yr opsiwn Llyfr Graddau Traddodiadol (Traditional Gradebook) [2].