Sut ydw i’n ychwanegu adran at gwrs fel addysgwr?

Gallwch ychwanegu adran at eich cwrs drwy olygu Gosodiadau eich cwrs yn Canvas. Mae adrannau yn helpu i rannu myfyrwyr i isgrwpiau mewn cyrsiau ac yn cynnig opsiynau penodol i adran, fel dyddiadau cyflwyno gwahanol ar gyfer aseiniadau, trafodaethau a chwisiau. Mae adrannau hefyd yn dangos ar gyfer pob myfyriwr yn nhudalen pobl y cwrs ac yn y Llyfr Graddau.

Hefyd, mae modd creu adrannau ar gyfer myfyrwyr sydd angen mwy o amser mewn cwrs, er enghraifft, os oes gan fyfyriwr radd anghyflawn.

Nodyn: Mae modd ychwanegu adrannau drwy system gwybodaeth myfyrwyr (SIS) eich sefydliad. Efallai bod rhai adrannau o gyrsiau eisoes wedi cael eu creu ar eich cyfer.

Agor Gosodiadau

Agor Gosodiadau

Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).

Agor Adrannau

Agor Adrannau

Cliciwch y tab Adrannau (Sections).

Ychwanegu Adran

Ychwanegu Adran

Yn y maes adran (section) [1], rhowch enw'r adran newydd. Cliciwch y botwm Ychwanegu Adran (Add Section) [2].

Gweld Adran

Gweld Adran

Gallwch weld yr adran yn eich cwrs.

Hefyd, gallwch ddewis newid dyddiadau dechrau a gorffen adran os oes angen.

Gallwch ychwanegu adrannau ychwanegol os oes angen. Mae mwy nag un adran cael eu trefnu yn ôl yr wyddor.

Nodyn: Os cafodd adran ei hychwanegu drwy SIS, a bod gennych chi hawl i weld ID SIS, bydd ID SIS yr adran hefyd yn ymddangos ar dudalen Adrannau'r Cwrs.

Ychwanegu Defnyddwyr at Adrannau

Ar ôl ychwanegu adrannau at eich cwrs, gallwch ychwanegu defnyddwyr at adrannau o’r dudalen Pobl (People) yn eich cwrs.