Fel addysgwr, gallwch chi reoli pa ddolenni sy'n ymddangos yn newislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation). Mae Canvas yn cynnwys set o ddolenni Crwydro'r Cwrs sy’n ymddangos yn ddiofyn, a does dim modd eu hailenwi. Yn dibynnu ar ffurfweddiad eich cwrs, mae’n bosib y bydd dolenni eraill ar gael ac y bydd modd eu haddasu.
Bydd dolenni i adrannau heb unrhyw gynnwys ac nad yw myfyrwyr yn gallu creu cynnwys ar eu cyfer yn cael eu cuddio'n awtomatig ar gyfer myfyrwyr a bydd yn dangos yr eicon Gweladwy i addysgwyr. Er enghraifft, os nad oes deilliannau dysgu wedi’u pennu ar gyfer y cwrs, byddwch yn gweld y ddolen Deilliannau (Outcomes) gyda'r eicon Gweladwy, ond fydd myfyrwyr ddim yn gweld y ddolen o gwbl. Mae’n bosib i Apiau Allanol sydd wedi’u Ffurfweddu (Configured External Apps) greu dolenni ychwanegol ar gyfer Crwydro'r Cwrs (Course Navigation).
Mae analluogi dolen crwydro'r cwrs yn creu'r ailgyfeiriad canlynol:
Mae aildrefnu a chuddio dolenni Crwydro'r Cwrs (Course Navigation) ar gyfer Cyhoeddiadau (Announcements), Aseiniadau (Assignments), Trafodaethau (Discussions), a Ffeiliau (Files) hefyd yn effeithio ar dabiau’r cwrs yng ngwedd cwrs y Dangosfwrdd (Dashboard) ar gyfer pob defnyddiwr. Ar ben hynny, bydd analluogi’r ddolen Ffeiliau (Files) yn cuddio’r tab Ffeiliau yn y Dewisydd Cynnwys (Content Selector) yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog (Rich Content Editor) ar gyfer myfyrwyr.
Bydd addysgwyr yn parhau i allu gweld y dolenni crwydro’r cwrs canlynol hyd yn oed os ydyn nhw wedi cael eu cuddio neu eu hanalluogi: Hafan, Cyhoeddiadau, Aseiniadau, Cydweithrediadau, Cynadleddau, Trafodaethau, Ffeiliau, Graddau, Modiwlau, Deilliannau, Tudalennau, Pobl, Cwisiau, Cyfarwyddiadau Sgorio, Gosodiadau, a Maes Llafur.
Nodiadau:
Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).
Cliciwch y tab dewislen Crwydro (Navigation).
Gallwch ddefnyddio’r opsiwn llusgo a gollwng i aildrefnu dolenni dewislen crwydro. Cliciwch y ddolen dewislen crwydro rydych chi am ei symud. Rhowch y ddolen dewislen crwydro yn y lleoliad o’ch dewis drwy ryddhau’r llygoden.
Hefyd, gallwch ddefnyddio’r opsiwn Symud I (Move To) i aildrefnu dolenni dewislen crwydro. Cliciwch yr eicon Opsiynau (Options) [1] a dewis y ddolen Symud (Move) [2].
Nodyn: Dim ond o fewn ei hadran briodol (cudd neu weladwy) y mae’r opsiwn Symud I yn symud dolen dewislen crwydro. Rhaid galluogi eitemau cudd yn gyntaf cyn eu rhoi mewn trefn ymhlith eitemau dewislen crwydro gweladwy. Does dim modd symud eitem gudd yn uniongyrchol i’r adran dolen wedi'i galluogi gyda'r opsiwn Symud I.
Ym mar ochr Symud Eitem dewislen Crwydro, cliciwch y gwymplen Gosod (Place) [1]. Dewiswch leoliad y ddolen dewislen crwydro rydych chi’n ei symud [2]. Gallwch symud y ddolen fel ei bod ar frig y rhestr, cyn dolen crwydro benodol, ar ôl dolen crwydro benodol, neu ar waelod y rhestr.
Os ydych chi’n dewis yr opsiwn Cyn (Before) neu Ar Ôl (After) , cliciwch yr ail gwymplen [1]. Dewiswch y ddolen dewislen crwydro a ddylai fod cyn neu ar ôl y ddolen rydych chi’n ei symud, gan ddilyn yr opsiwn sydd wedi’i ddewis yn y ddewislen flaenorol [2].
Os ydych chi am symud y ddolen dewislen crwydro i rywle arall, newidiwch opsiynau gosod y bar ochr yn ôl yr angen.
Cliciwch y botwm Symud (Move).
I guddio dolen dewislen crwydro, cliciwch eicon Opsiynau (Options) y ddolen [1] a dewis yr opsiwn Analluogi (Disable) [2].
Hefyd, gallwch lusgo a gollwng y ddolen o’r adran gudd ar waelod y dudalen.
I alluogi dolen yn yr adran gudd [1], cliciwch yr eicon Opsiynau (Options) [2] a chlicio'r botwm Galluogi (Enable) [3].
Hefyd, gallwch lusgo a gollwng y ddolen uwch ben yr adran gudd.
Cliciwch y botwm Cadw (Save).
Gweld y Ddewislen Crwydro'r Cwrs Bydd dolenni crwydro’n ymddangos yn y drefn rydych chi wedi’i neilltuo yng Ngosodiadau’r Cwrs.
Mae unrhyw ddolen Crwydro’r Cwrs sydd wedi’i chuddio rhag myfyrwyr yn dangos yr eicon Gweladwy (Visibility) [1]. Gall fod dolen wedi’i chuddio i fyfyrwyr oherwydd nad oes cynnwys yn yr ardal nodwedd [2] neu oherwydd bod y ddolen wedi’i hanalluogi [3].
Nodyn: Os ydych chi wedi analluogi dolen Crwydro’r Cwrs i adnodd allanol, ni fydd y ddolen honno’n ymddangos yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs a bydd wedi’i chuddio rhag pob defnyddiwr y cwrs, gan gynnwys addysgwyr.
If you have a suggestion to improve this guide, or if you want to recommend corrections, please share your feedback