Sut ydw i'n defnyddio gosodiadau'r cwrs?

Gallwch ddefnyddio dolen crwydro'r Gosodiadau (Settings) i ddiweddaru a gweld yr adrannau a’r defnyddwyr gwahanol yn ddidrafferth, a gallwch addasu’r ffordd rydych chi'n crwydro eich cwrs hefyd. Gan ddibynnu ar eich hawliau, gallwch olygu lefelau gwahanol o osodiadau’r cwrs.

Agor Gosodiadau

Agor Gosodiadau

Mae'r rhan gosodiadau yn eich cwrs ar gael i addysgwyr yn unig.

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).

Gweld Manylion Cwrs

Gweld Manylion Cwrs

Yn y tab Manylion Cwrs, gallwch weld manylion eich cwrs, gan gynnwys ei enw, beth yw eich cwota a pha drwydded rydych chi wedi’i hatodi i’r cynnwys hwn yn eich cwrs. Gallwch chi hefyd weld statws y cwrs. Os nad oes modd cyhoeddi’r cwrs, bydd y testun sydd i’w weld wrth hofran yn rhoi gwybod i chi am hynny.

Gweld Adrannau

Gweld Adrannau

Yn y tab Adrannau (Sections) gallwch ychwanegu adran at eich cwrs a rheoli ymrestriadau yn yr adran myfyrwyr.

Gweld y Ddewislen Crwydro

Gweld y Ddewislen Crwydro

Yn y tab Crwydro (Navigation), gallwch addasu’r dolenni Crwydro Cynnwys (Content Navigation) sydd wedi’u rhestru yn eich cwrs. Gallwch lusgo a gollwng er mwyn aildrefnu a chuddio dolenni'r ddewislen crwydro’r cwrs.

Bydd unrhyw Apiau Allanol sydd wedi eu ffurfweddu yn y ddewislen crwydro'r cwrs yn ymddangos yma hefyd.

Gweld Apiau

Gweld Apiau

Os yw eich sefydliad wedi galluogi'r Canvas App Center, yn y tab Apiau (Apps), gallwch weld yr holl adnoddau dysgu allanol sydd ar gael yn Canvas. Fodd bynnag, mae modd i chi ffurfweddu apiau eich hun hefyd.

Gweld Opsiynau Nodweddion

Gweld Opsiynau Nodweddion

Yn y tab Opsiynau Nodweddion, gallwch alluogi ac analluogi nodweddion Canvas yn eich cwrs os ydynt wedi cael eu rhyddhau gan weinyddwr eich cyfrif.

Gweld Integreiddiadau

Gweld Integreiddiadau

Os yw hyn wedi’i alluogi gan eich sefydliad, efallai y byddwch chi hefyd yn gallu gweld y tab Integreiddiadau. O’r tab Integreiddiadau, gallwch chi gysoni data ymrestru i Microsoft Teams.