Sut ydw i'n creu aseiniad ar-lein?

Gallwch chi greu aseiniadau ar-lein er mwyn i fyfyrwyr gyflwyno eu haseiniadau gan ddefnyddio Canvas. Mae myfyrwyr yn gallu cyflwyno testun wedi’i fformation gan ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, URLs gwefannau, ffeiliau wedi’u hanodi, neu ffeiliau wedi’u llwytho i fyny. Gallan nhw hefyd gyflwyno recordiadau sain neu fideo drwy recordio cyfrwng newydd neu lwytho cyfryngau sy’n bodoli’n barod i fyny.

Dydy ffeiliau sy’n cael eu cyflwyno i aseiniad ar-lein ddim yn cyfrif tuag at gwota storio'r defnyddiwr.

Wrth ganiatáu llwytho ffeiliau i fyny fel opsiwn cofnod ar-lein, gallwch chi gyfyngu mathau penodol o ffeiliau ar gyfer cyflwyno aseiniadau. O ran cyfyngu aseiniadau sydd â math ffeil od neu anarferol, rhowch gynnig ar ei ychwanegu at eich cwrs i gadarnhau bod y ffeil wedi'i derbyn cyn gofyn i fyfyrwyr gyflwyno'r math o ffeil. Does dim modd delio â mathau o ffeiliau cyfansawdd.

Os yw eich sefydliad wedi galluogi Google Docs, LTI Google Apps, neu LTI Microsoft Office 365, gall myfyrwyr lwytho ffeiliau i fyny o’u cyfrif Google Drive neu OneDrive yn uniongyrchol. (Os dim ond Google Docs sydd wedi'i alluogi ar gyfer eich sefydliad, rhai i fyfyrwyr gysylltu â Google Drive fel gwasanaeth gwe i gyflwyno aseiniad fel Google Doc, Google Sheet, neu Google Slide.) Gallwch ganiatáu ffeiliau Google Drive ac OneDrive fel mathau o gyflwyniad drwy ddewis blwch ticio Llwytho Ffeil i Fyny (File Uploads) wrth greu aseiniad.

Mathau o Ffeil Google Drive

Gall myfyrwyr gyflwyno ffeiliau Google Doc (.gdoc), Google Sheet (.gsheet), neu Google Slide (.gslide). Hefyd, gallant ddefnyddio Google Docs i gyflwyno ffeiliau Word (.doc/.docx), Excel (.xls/.xlsx), PowerPoint (.ppt/.pptx), a PDF wedi'u llwytho i fyny ond heb drosi i fformat Google Docs.

Pan fydd mathau o ffeiliau Google yn cael eu cyflwyno fel aseiniad sy’n cael ei gyflwyno, bydd y ffeiliau hynny’n trosi i fod yn fathau o ffeiliau sy’n cyfateb i rai Microsoft a byddant yn ymddangos fel ffeiliau Word, Excel, neu PowerPoint. Mae Canvas yn defnyddio’r math o ffeil trosi ar gyfer cyflwyniadau (ac i rendro mathau o ffeiliau cydnaws fel ffeiliau DocViewer yn SpeedGrader), felly os ydych chi am gyfyngu mathau o ffeiliau i gynnwys mathau ffeil Google yn unig, rhaid i chi gynnwys mathau o ffeiliau hefyd ar gyfer pob math o ffeil Microsoft priodol. Er enghraifft, os dim ond cyflwyniadau Google Slide rydych chi am eu caniatáu, rhaid i chi gynnwys .pptx fel math cyfyngol o ffeil. Fel arall, ni fydd Canvas yn dangos ffeiliau .gslide yn nhab Google Doc.

Sylwch: Dydy Canvas ddim yn gallu delio â ffeiliau wedi’u llwytho i fyny sy’n fwy na 5 GB. Ond, does dim modd llwytho cyfryngau i fyny sydd yn fwy na 500 MB.

Agor Aseiniadau

Agor Aseiniadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Aseiniadau (Assignments).

Ychwanegu Aseiniad

Ychwanegu Aseiniad

I greu aseiniad newydd, cliciwch y botwm Ychwanegu Aseiniad (Add Assignment).

Ychwanegu Manylion Aseiniad

Dewis Math o Gyflwyniad Ar-lein

Dewis Math o Gyflwyniad Ar-lein

Yn y gwymplen Math o gyflwyniad (Submission Type), dewiswch yr opsiwn Ar-lein (Online).

Dewis Opsiynau Cofnod Ar-lein

Dewis Opsiynau Cofnod Ar-lein

Dewiswch yr opsiynau cofnod ar-lein rydych chi am eu caniatáu ar gyfer yr aseiniad. Gallwch ddewis hyd at bedwar opsiwn:

  • Cofnod Testun (Text Entry) [1]: Gall myfyrwyr gyflwyno eu haseiniad yn uniongyrchol yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog. Nid yw anodiadau DocViewer ar gael ar gyfer cyflwyniadau cofnod testun. Ar ben hynny, does dim modd ail-lwytho cyflwyniadau cofnod testun i fyny i’r Llyfr Graddau (Gradebook).
  • URL Gwefan [2]: Gall myfyrwyr gyflwyno URL a fydd yn cyflawni’r aseiniad. Nid yw anodiadau DocViewer ar gael ar gyfer cyflwyniadau URL gwefan. Ar ben hynny, does dim modd ail-lwytho cyflwyniadau URL gwefan i fyny i’r Llyfr Graddau (Gradebook).
  • Recordiadau ar Gyfryngau [3]: Gall myfyrwyr gyflwyno recordiad sain neu fideo a fydd yn cyflawni’r aseiniad. Gallant naill ai recordio cyfrwng newydd neu lwytho cyfryngau sy’n bodoli’n barod i fyny. Gall ffeiliau fideo a sain sy’n cael eu llwytho i fyny i Canvas fod hyd at 500 MB o faint. Nid yw anodiadau DocViewer ar gael ar gyfer cyflwyniadau recordiadau ar gyfryngau. Ar ben hynny, does dim modd llwytho i lawr recordiadau ar gyfryngau sydd wedi’u cyflwyno.
  • Anodiad gan Fyfyriwr [4]: Mae myfyrwyr yn gallu anodi ffeil wedi’i llwytho i fyny gan addysgwr. Mae’r ddogfen wedi’i anodi yn cael ei chyflwyno fel cyflwyniad aseiniad y myfyriwr. Ar gyfer myfyrwyr sydd ddim yn gallu anodi dogfen, mae’n well defnyddio opsiwn cofnod ar-lein arall.
  • Ffeiliau wedi’u Llwytho i Fyny (File Uploads) [5]: Mae modd i fyfyrwyr lwytho ffeil i fyny neu dynnu llun gyda’u gwe-gamera i gwblhau’r aseiniad. Mae anodiadau DocViewer ar gael ar gyfer mathau o ffeiliau cydnaws yn SpeedGrader. Ar ben hynny, os yw eich sefydliad wedi galluogi Google Docs, LTI Google Apps, neu LTI Microsoft Office 365, gall myfyrwyr lwytho ffeiliau i fyny o’u cyfrif Google Drive neu OneDrive yn uniongyrchol. Os dim ond Google Docs sydd wedi'i alluogi ar gyfer eich sefydliad, rhaid i fyfyrwyr gysylltu â Google Drive fel gwasanaeth gwe i gyflwyno aseiniad fel Google Doc, Google Sheet, neu Google Slide. Mae modd i ffeiliau sydd wedi’u llwytho i fyny a’u cyflwyno gael eu llwytho i lawr a’i hail-lwytho i fyny i’r Llyfr Graddau (Gradebook). Mae Canvas yn gallu delio â llwytho ffeiliau i fyny hyd at 5 GB.

Mae gosodiadau aseiniadau yn gwybod i gofio a dangos y gosodiadau sydd wedi’u creu neu eu golygu yn aseiniad blaenorol y cwrs. Yn seiliedig ar aseiniadau blaenorol, mae’n bosib y bydd un neu ragor o’r opsiynau hyn wedi cael eu dewis i chi’n barod.

Nodiadau:

  • Os byddwch chi’n dewis sawl math o gyflwyniad ar gyfer aseiniad, dim ond un math o gyflwyniad y bydd fyfyrwyr yn gallu ei ddefnyddio am bob cyflwyniad asesiniad.
  • Os yw eich sefydliad wedi galluogi LTI Microsoft Office 365, rhaid i chi ddewis yr opsiwn Llwytho Ffeil i Fyny neu’r opsiynau Llwytho Ffeil i Fyny ac URL Gwefan i ddefnyddio tab Office 365 ar y dudalen cyflwyno aseiniad. Os dim ond URL Gwefan byddwch chi’n ei ddewis fel opsiwn cofnod, ni fydd tab Office 365 yn gweithio’n iawn.
  • Dydy aseiniadau grŵp ddim yn gallu delio â’r math o gyflwyniad anodiad gan fyfyriwr.

Dewis Ffeil Anodiad

Dewis Ffeil Anodiad

Os ydych chi’n gadael i fyfyrwyr anodi cyflwyniadau, rhaid i chi ddewis neu lwytho ffeil i fyny i’r myfyrwyr ei hanodi.

Gallwch chi ddewis ffeil o ffeiliau’r cwrs [1] neu o’ch ffeiliau defnyddiwr [2] neu lwytho ffeil newydd i fyny o’ch cyfrifiadur [3].

Rhaid i ffeiliau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer anodiad allu cael eu rhagweld yn Canvas.

Cyfyngu mathau o ffeiliau

Cyfyngu mathau o ffeiliau

Os byddwch chi’n caniatáu llwytho ffeil i fyny, gallwch chi ddewis cyfyngu cyflwyniadau i fathau penodol o ffeiliau. I alluogi’r opsiwn hwn, cliciwch y blwch ticio Cyfyngu Mathau o Ffeiliau i’w Llwytho i Fyny (Restrict Upload File Types) [1]. Yn y maes Estyniadau Ffeil a ganiateir (Allowed File Extensions) [2], rhowch restr o’r estyniadau a ganiateir. Rhaid i bob math o ffeil gael eu gwahanu gan atalnod rhwng pob un. Gallwch gynnwys bylchau, priflythrennau, ac atalnod llawn mewn enwau ffeil aseiniad.

Sylwch: O ran math ffeil od neu anarferol, rhowch gynnig ar ei ychwanegu at eich cwrs i gadarnhau bod y ffeil wedi'i derbyn cyn gofyn i fyfyrwyr gyflwyno'r math o ffeil.

Cadw Aseiniad

Cadw Aseiniad

I gadw’r aseiniad a’i gyhoeddi, cliciwch y botwm Cadw a Chyhoeddi (Save & Publish) [1]. I gadw'r aseiniad ar ffurf drafft, cliciwch y botwm Cadw (Save) [2].