Sut ydw i’n defnyddio'r tiwtorial creu cwrs Canvas fel addysgwr?
Mae tiwtorial creu cwrs Canvas yn eich helpu i ddod i ddeall yr ardaloedd nodwedd sydd ar gael mewn cwrs Canvas. Ym mhob ardal, bydd y tiwtorial yn dangos trosolwg byr a dolenni i ganllawiau defnyddiwr sy’n cyfeirio at y nodwedd hono. Mae’r tiwtorial yn gallu bod yn ddefnyddiol wrth greu cwrs newydd neu ddysgu am ardal nodwedd benodol.
Mae’r tiwtorial creu cwrs ar gael yn yr ardaloedd nodwedd canlynol: Cyhoeddiadau (Announcements), Aseiniadau (Assignments), Cydweithrediadau (Collaborations), Cynadleddau (Conferences), Mewngludo i Gwrs (Course Import), Trafodaethau (Discussions), Ffeiliau (Files), Graddau (Grades), Tudalen Hafan (Home Page), Modiwlau (Modules), Dadansoddiadau Newydd (New Analytics), Deilliannau (Outcomes), Tudalennau (Pages), Pobl (People), Cwisiau (Quizzes), Cyfarwyddiadau Sgorio (Rubrics), Gosodiadau (Settings), Maes Llafur (Syllabus), a tudalen integreiddio Zoom LTI.
Nodiadau:
- Ar hyn o bryd mae'r nodwedd hon yn nodwedd optio i mewn ar gyfer cyfrif. Os nad yw'r tiwtorial cwrs ar gael yn eich cwrs, nid yw eich sefydliad wedi galluogi’r nodwedd hon.
- Os ydy'r tiwtorial cwrs ar gael i chi, gallwch gau'r tiwtorial cwrs unrhyw bryd. Os ydych am ail-alluogi'r tiwtorial cwrs, gallwch alluogi'r tiwtorial fel gosodiad nodwedd i ddefnyddwyr yng Ngosodiadau Defnyddiwr.
- Dydy’r tiwtorial creu cwrs ddim yn ymddangos mewn cyrsiau glasbrint.
Agor Gosodiadau Defnyddiwr

Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1]. Yna cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings) [2].
Galluogi Tiwtorial

Dewch o hyd i’ch gosodiadau nodweddion ar gyfer defnyddwyr I alluogi’r tiwtorial creu cwrs, cliciwch yr eicon Tiwtorial Creu Cwrs (Course Set-up Tutorial) [2].
Agor Cwrs

I agor eich cwrs, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses) yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan [1]. Yna cliciwch enw’r cwrs rydych chi am ei weld [2].
Gweld Tiwtorial
Bydd cyrsiau newydd yn agor yn y Dudalen Hafan, sy’n dangos y tiwtorial Tudalen Hafan [1]. Mae’r tiwtorial yn nodi pwrpas y dudalen [2] ac yn darparu dolenni i ganllawiau Canvas cysylltiedig [3].
Parhau â’r Tiwtorial
I weld y tiwtorial creu cwrs ar gyfer tudalen wahanol yn Canvas, cliciwch y ddolen ar gyfer y dudalen yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs [1].
Bydd cynnwys y tiwtorial yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu’r dudalen rydych chi’n edrych arni [2].
Crebachu Tiwtorial

Yn ddiofyn, mae'r tiwtorial yn cael ei ehangu ym mhob tudalen. Ar ôl i chi ddarllen cynnwys y tiwtorial, mae'n bosib y byddwch am grebachu'r tiwtorial gan fod rhai tudalennau yn cynnwys deunydd y tu ôl i'r tiwtorial. Mae cyflwr y tiwtorial yn gyson ar draws dudalennau Canvas, felly os byddwch chi'n crebachu'r tiwtorial mewn un dudalen, bydd yn aros wedi'i grebachu nes ei fod yn cael ei ehangu eto.
I ehangu neu grebachu’r tiwtorial, cliciwch yr eicon Saeth.
Dod â Thiwtorial i ben

I ddirwyn y tiwtorial i ben ar unrhyw adeg, cliciwch y botwm Peidiwch â’i Ddangos Eto (Don't Show Again).
Nodyn: Bydd dod â'r tiwtorial i ben yn golygu na fydd y tiwtorial yn ymddangos yn unrhyw un o'ch cyrsiau.

Cliciwch y botwm Iawn (Okay).