Pa opsiynau ydw i’n gallu eu defnyddio i ailraddio cwis mewn cwrs?

Os ydych chi wedi cyhoeddi cwis mewn camgymeriad a’i fod angen ei gywiro, gallwch ddefnyddio ailraddio cwis i olygu cwestiynau cwis sy’n bodoli’n barod a gofyn i Canvas ailgyfrif graddau myfyrwyr.

Dydy ailraddio cwis ddim ond yn gweithio gyda mathau penodol o gwestiynau cwis, a dim ond gyda myfyrwyr sydd wedi gwneud y cwis yn barod. Dydy ychwanegu neu dynnu cwestiwn ddim yn sbarduno’r nodwedd ailraddio cwis. Yn ychwanegol, dydy newid gwerth pwynt cwestiwn cwis ddim yn sbarduno’r nodwedd ailraddio cwis chwaith; bydd y cwis y mae’r myfyriwr wedi’i gyflwyno yn dangos y gwerth pwynt wedi’i ddiweddaru, ond ni fydd y radd bresennol yn newid yn y Llyfr Graddau. Os ydych chi wedi golygu eich cwis yn un o’r tair ffordd hyn, dylech chi safoni’r cwis a gadael i’r myfyriwr ailwneud y cwis.

Dim ond ar gyfer myfyrwyr sydd wedi gwneud y cwis yn barod mae’r nodwedd hon yn berthnasol, a dim ond y cwestiynau cwis sy’n bodoli’n barod sydd wedi’u newid.

Ar ôl i’r cwis orffen cael ei ailraddio, byddwch chi’n derbyn hysbysiad e-bost i roi gwybod i chi bod yr ailraddio wedi gorffen.

Ailraddio Mathau o Gwestiynau

Ailraddio Mathau o Gwestiynau

Ar hyn o bryd, mae ailraddio cwis ar gael gyda chwestiynau Mwy nag un dewis, Gwir/Ffug, Mwy nag un ateb.

Cyfyngiadau Ailraddio

Dydy ailraddio cwis ddim yn berthnasol ar gyfer cwestiynau sy’n gysylltiedig â banc cwestiynau gan fod modd i gwestiynau gael eu defnyddio mewn mwy nag un cwis.

Hefyd, mae ychwanegu neu ddileu atebion ar gyfer cwestiwn gyda chyflwyniadau yn analluogi’r opsiwn i ailraddio'r cwestiwn hwn.

Opsiynau Ailraddio

Opsiynau Ailraddio

Pan fyddwch chi’n newid yr ateb cywir mewn cwestiwn cwis, bydd Canvas yn cynnig hyd at bedwar opsiwn ailraddio cwis, yn dibynnu ar y math o gwestiwn.

Rhoi Pwyntiau ar gyfer y Ddau Ateb

Rhoi Pwyntiau ar gyfer y Ddau Ateb

Drwy ddadansoddi cwis neu adborth myfyrwyr, efallai y gwelwch chi fod myfyrwyr yn gweld cwestiwn yn rhy ddryslyd, neu efallai y gwnewch chi sylweddoli y gallai cwestiwn fod wedi cael ei osod gyda mwy nag un ateb yn hytrach na dim ond un. Mewn achosion fel hyn, gallwch ddewis yr opsiwn Rhoi pwyntiau am atebion cywir ac atebion oedd yn arfer bod yn gywir (Award points for both corrected and previously correct answers) er mwyn osgoi cosbi eich myfyrwyr.

Nodiadau:

  • Os yw cwestiwn wedi cael ei ailraddio sawl gwaith, dydy’r opsiwn Rhoi pwyntiau am atebion cywir ac atebion oedd yn arfer bod yn gywir ddim ond yn rhoi pwyntiau am yr ateb cywir a’r ateb diweddaraf sydd wedi’i farcio’n gywir.
  • Dydy’r opsiwn hwn ddim ar gael ar gyfer cwestiynau gyda mwy nag un ateb.

Rhoi Pwyntiau am yr Ateb Cywir

Rhoi Pwyntiau am yr Ateb Cywir

O bryd i’w gilydd gall ateb anghywir gael ei farcio fel yr ateb cywir i gwis. Mae’r opsiwn Rhoi pwyntiau am yr ateb cywir yn unig (Only award points for the corrected answer) yn gadael i chi gywiro’r ateb a rhoi credyd i’r rhai a ddewisodd yr ateb a ddylai fod wedi bod yn gywir.

Rhoi Credyd Llawn i Bawb

Rhoi Credyd Llawn i Bawb

Mewn rhai achosion efallai y bydd yn briodol rhoi credyd llawn i bawb am gwestiwn. Dewiswch yr opsiwn Rhoi credyd llawn i bawb am y cwestiwn hwn (Give everyone full credit for this question).

Diweddaru heb Ailraddio

Diweddaru heb Ailraddio

Os ydych chi angen gwella eich cwestiwn neu ateb ar gyfer cwis yn y dyfodol, gallwch ddewis yr opsiwn Diweddaru cwestiwn heb ailraddio (Update question without regrading) er mwyn diweddaru cwestiwn heb ailraddio’r myfyrwyr sydd wedi gwneud y cwis yn barod.