Sut ydw i’n llwytho delwedd i fyny ac yn ei phlannu yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog fel addysgwr?

Gallwch chi blannu delweddau yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog. Gellir llwytho ffeiliau delweddau i fyny o’ch cyfrifiadur neu eu hychwanegu drwy ddefnyddio URL. Gallwch chi hefyd blannu delweddau o’ch cwrs ac o ffeiliau defnyddwyr.

Mae sawl nodwedd yn Canvas yn cefnogi’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, gan gynnwys Cyhoeddiadau, Aseiniadau, Trafodaethau, Tudalennau, Cwisiau, a Maes Llafur.

Nodiadau: 

  • Mae delweddau sydd wedi’u llwytho i fyny o’ch cyfrifiadur gan ddefnyddio’r adnodd llwytho delweddau i fyny yn cael eu hychwanegu at eich ffeiliau cwrs.
  • Os ydych chi’n defnyddio Hawliau Defnyddio, bydd rhaid i chi osod hawliau defnyddio’r ffeil cyn y bydd y ffeil ar gael i fyfyrwyr.

Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Agorwch y Golygydd Cynnwys Cyfoethog wrth greu neu olygu cyhoeddiad, aseiniad, trafodaeth, tudalen, cwis, neu faes llafur.

Nodyn: Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cefnogi bysellau hwylus. I weld ffenestr gyda rhestr o fysellau crwydro hwylus, pwyswch Alt+F8 (ar fysell cyfrifiadur) neu Option+F8 (ar fysell Mac) ar yr un pryd ar eich bysell.

Llwytho Delwedd i Fyny drwy Lusgo a Gollwng

Llwytho Delwedd i Fyny drwy Lusgo a Gollwng

Gallwch chi lwytho delwedd i fyny a’i phlannu drwy lusgo a gollwng o borwr gwe neu o ffeil sydd wedi’i chadw ar eich cyfrifiadur. Os ydych chi’n llusgo a gollwng delwedd o borwr gwe, bydd URL ffynhonnell y ddelwedd yn ymddangos yn y maes URL Ffeil yn y Dewisiadau Delwedd.

Llwytho Delwedd i Fyny drwy Gopïo a Gludo

Llwytho Delwedd i Fyny drwy Gopïo a Gludo

Gallwch chi lwytho delwedd i fyny a’i phlannu drwy ei chopïo a gludo. I gopïo delwedd ar eich clipfwrdd, de-gliciwch y ddelwedd a dewis Copïo.  Gallwch ei gludo wedyn drwy dde-glicio yn y Golygydd Testun Cyfoethog a dewis Gludo neu ddefnyddio’r bysellau hwylus CTRL+V ar PC neu Command+V ar Mac.

Llwytho Delwedd i Fyny o’r Bar Offer

Llwytho Delwedd i Fyny o’r Bar Offer

I lwytho delwedd i fyny o’r bar offer, cliciwch yr eicon Delwedd (Image) [1]. Yna, dewiswch yr opsiwn Llwytho Delwedd i Fyny (Upload Image) [2].

Nodyn: I weld yr eicon Delwedd (Image), efallai y bydd angen i chi glicio’r eicon Opsiynau (Options) [3].

Llwytho Delwedd i Fyny o’r Bar Dewislen

Llwytho Delwedd i Fyny o’r Bar Dewislen

Gallwch chi hefyd lwytho delwedd i fyny gan ddefnyddio’r bar dewislen yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog. Mae’r bar dewislen yn dangos teitlau offer y Golygydd Cynnwys Cyfoethog ac efallai ei fod yn well i’r rheini sy’n defnyddio bysellau crwydro.

I lwytho delwedd i fyny gan ddefnyddio’r bar dewislen, cliciwch y ddewislen Mewnosod (Insert) [1], dewiswch yr opsiwn Delwedd (Image) [2], a dewiswch yr opsiwn Llwytho Delwedd i Fyny (Upload Image) [3].

Llwytho Delwedd i Fyny o Gyfrifiadur

Yn ddiofyn, mae’r Adnodd Llwytho Delweddau i Fyny yn dangos y tab Cyfrifiadur (Computer) [1]. Cliciwch neu llusgwch a gollyngwch ffeil delwedd i’r adnodd llwytho delweddau i fyny er mwyn llwytho ffeil i fyny o’ch cyfrifiadur.

Nodyn: Mae delweddau sydd wedi’u llwytho i fyny o’ch cyfrifiadur gan ddefnyddio’r adnodd llwytho delweddau i fyny yn cael eu hychwanegu at eich ffeiliau cwrs.

Dewis Ffeil

Dewis Ffeil

Dewiswch y ffeil delwedd [1] a chliciwch y botwm Agor (Open) [2].

Gweld y Ffeil dan Sylw

Mae’r adnodd llwytho i fyny yn dangos enw’r ffeil delwedd [1] a rhagolwg o’r ddelwedd. I dynnu’r ddelwedd, cliciwch yr eicon Dileu (Delete) [3].

Llwytho Delwedd i Fyny o URL

I lwytho delwedd i fyny o URL, cliciwch y tab URL [1].

Rhowch yr URL yn y maes URL Ffeil (File URL) [2].

Rheoli Hawliau Defnyddio

Rheoli Hawliau Defnyddio

Os yw’n ofynnol yn eich sefydliad, bydd angen i chi ddewis gosodiadau hawliau defnyddio ar gyfer eich delwedd.

Yn y gwymplen Hawliau Defnyddio (Usage Right) [1], dewiswch un o’r pum hawl defnyddio canlynol:

  • Fi sydd biau’r hawlfraint: yn golygu cynnwys gwreiddiol sydd wedi’i greu gennych chi
  • Rydw i wedi cael caniatâd i ddefnyddio’r ffeil: caniatâd awdurdodedig gan yr awdur
  • Mae’r deunydd yn y parth cyhoeddus: wedi’i neilltuo’n benodol i’r parth cyhoeddus, nid oes modd ei ro o dan hawlfraint, neu nid yw wedi’i ddiogelu gan hawlfraint mwyach
  • Mae’r eithriad yn berthnasol i'r deunydd - ee defnydd teg, yr hawl i ddyfynnu, neu hawliau eraill o dan y cyfreithiau hawlfraint perthnasol: dyfyniad neu grynodeb yn cael eu defnyddio ar gyfer sylwadau, adrodd y newyddion, ymchwil, neu ddadansoddiad mewn addysg
  • Mae’r deunydd wedi'i drwyddedu o dan Creative Commons: mae’r opsiwn hwn yn golygu gosod trwydded Creative Commons benodol

Os yw’n hysbys, rhowch wybodaeth perchennog yr hawlfraint yn y maes Perchennog yr Hawlfraint (Copyright Holder) [2].

Nodyn: Os ydych chi’n addysgwr ac nad ydych chi’n siŵr pa hawliau defnyddio sy’n berthnasol i’ch delwedd, gofynnwch i weinyddwyr eich sefydliad am gyngor.

Rheoli Priodoleddau Delwedd

Rheoli Priodoleddau Delwedd

I ychwanegu Testun Amgen at eich delwedd, teipiwch ddisgrifiad testun amgen neu dagiau testun yn y maes Testun Amgen (Alt Text) [1]. Yn ddiofyn, mae’r maes Testun Amgen yn dangos enw ffeil y ddelwedd. Mae testun amgen yn cael ei ddarllen gan ddarllenwyr sgrin, ac mae cael ei ddangos pan nad oes modd dangos y ddelwedd sydd wedi’i phlannu.

Os ydy’r ddelwedd yn addurniadol ac nad oes angen testun amgen arni, dewiswch yr opsiwn Delwedd Addurniadol (Decorative Image) [2].

Yn ddiofyn, mae’r opsiwn dangos Plannu Delwedd (Embed Image) wedi’i dews ar gyfer plannu delweddau [3].

I ddangos dolen y ffeil delwedd, dewiswch yr opsiwn Dangos Dolen Testun (Display Text Link) [4]. Bydd dolen y ffeil yn cymryd lle’r ddelwedd yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.

Plannu Delwedd wedi’i Llwytho i Fyny

Cyflwyno Ffeil wedi’i Llwytho i Fyny

I blannu’r ddelwedd sydd gennych chi dan sylw, cliciwch y botwm Cyflwyno (Submit).

Nodyn: Bydd y ddelwedd yn fflachio cyn iddi gael ei phlannu yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.

Gweld Delwedd wedi’i Phlannu

Gweld Delwedd wedi’i Phlannu

Gweld y ddelwedd rydych wedi’i llwytho i fyny yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog. Gallwch chi hefyd ychwanegu neu addasu tagiau testun amgen a rheoli’r opsiynau dangos delwedd.

Diweddaru Delwedd drwy URL Ffeil

Cliciwch y ddelwedd [1], wedyn clicio’r ddolen Opsiynau Delwedd (Image Options) [2].

Gallwch chi reoli opsiynau dangos ar gyfer delweddau wedi’u plannu yn y ddewislen Opsiynau Delwedd [3].

I newid neu ddiweddaru delwedd sydd wedi’i hychwanegu at y Golygydd Cynnwys Cyfoethog drwy URL, rhowch URL delwedd wedi’i diweddaru yn y maes URL Ffeil (File URL) [4].

Cliciwch y botwm Wedi gorffen (Done) [5].

Cadw Newidiadau

Cadw Newidiadau

Cliciwch y botwm Cadw (Save).

Nodiadau:

  • Mae’r tudalennau manylion cwisiau, tudalennau, trafodaethau, ac aseiniadau yn cynnwys botwm Cadw a Chyhoeddi (Save & Publish).
  • Mae’r dudalen maes llafur yn cynnwys botwm Diweddaru Maes Llafur (Update Syllabus).
  • Mae ymatebion i drafodaethau yn cynnwys botwm Postio Ymateb (Post Reply).

Gweld Cynnwys

Gweld Cynnwys

Gweld y cynnwys sydd wedi’i greu yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.