Sut ydw i’n newid dyddiadau dechrau a gorffen cwrs?

Yn ddiofyn, mae myfyrwyr yn gallu cymryd rhan mewn cyrsiau o fewn y dyddiadau dechrau a gorffen y tymor sydd wedi cael eu gosod ar gyfer eich sefydliad. Ond, fel addysgwr, efallai y bydd angen i chi newid dyddiadau dechrau a gorffen cyfranogiad eich cwrs. Gall dyddiadau fod yn fyrrach na dyddiadau’r tymhorau neu orgyffwrdd â dyddiadau’r tymhorau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i weld siart rhyngweithiol Gweld Cwrs a Chyfranogiad Myfyriwr (Student Course Visibility and Participation).

Cyfyngu Dyddiadau Cyfranogiad Defnyddiwr

Gallwch chi gyfyngu cyfranogiad defnyddwyr i ddyddiadau penodol drwy osod dyddiadau cyfranogiad cwrs. Mae cymryd rhan yn golygu bod y myfyrwyr yn gallu cyflwyno aseiniadau, postio trafodaethau, llwytho ffeiliau i fyny, neu gymryd rhan mewn unrhyw dasgau gweithredu eraill mewn cwrs. Os byddwch chi’n gosod dyddiadau cyfranogiad cwrs, bydd y myfyrwyr yn gallu derbyn gwahoddiad y cwrs, cael mynediad at y cwrs, ac edrych ar gynnwys, ond fydd dim modd iddyn nhw gymryd rhan yn llawn tan ddiwrnod cyntaf y cwrs. Pan ddaw’r cwrs i ben, bydd y cwrs yn cael ei wneud yn un darllen-yn-unig.

Ystyriaethau Dangosfwrdd

Gall y dyddiadau cyfranogiad myfyrwyr effeithio ar gyrsiau sydd wedi'u marcio fel ffefrynnau ac sy'n ymddangos yn y Dangosfwrdd. Os bydd cwrs yn cynnwys dyddiadau cyfranogiad cwrs, ni fydd modd i fyfyrwyr gymryd rhan yn y cwrs ar ôl y dyddiad gorffen, a bydd y cwrs yn cael ei dynnu o'r Dangosfwrdd.

Yn ogystal, os yw dyddiadau’r tymor yn cael eu defnyddio fel dyddiadau cyfranogiad cwrs, ni fydd y cwrs yn cael ei dynnu o’r Dangosfwrdd nes bod y cwrs wedi gorffen yn ôl dyddiadau’r cwrs.

Cyfyngu Mynediad at Gwrs (Restrict Course Access)

Os nad ydych am i'r myfyrwyr weld unrhyw gynnwys yn y cwrs tan ddyddiad cychwyn y cwrs, mae Gosodiadau'r Cwrs (Course Settings) yn caniatáu i chi atal myfyrwyr rhag gallu cael gafael ar gynnwys. Hefyd, gallwch ddewis cyfyngu pob mynediad i'r cwrs ar ôl i’r cwrs ddod i ben.

Nodiadau:

  • Os nad ydych chi’n gallu newid beth sy’n cael ei ddangos yn y gwymplen Cyfranogiad, mae eich sefydliad wedi atal addysgwyr rhag addasu dyddiadau argaeledd cyrsiau.
  • Dim ond os yw eich ymrestriad wedi’i alluogi gallwch chi newid dyddiad gorffen y cwrs. Does dim modd newid dyddiadau’r cwrs ar ôl i’ch ymrestriad ddod i ben ar gyfer y cwrs.

Agor Gosodiadau

Agor Gosodiadau

Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).

Agor Manylion y Cwrs

Agor Manylion y Cwrs

Cliciwch y tab Manylion y Cwrs (Course Details).

Gweld Dyddiadau Cyfranogiad Tymor

Efallai y bydd cyrsiau’n cael eu neilltuo i’r Tymor Diofyn (Default Term) neu i dymor penodol [1]. Yn ddiofyn, mae cyrsiau wedi’u gosod i ddilyn dyddiadau dechrau a gorffen y tymor sydd wedi cael eu gosod ar gyfer eich sefydliad.

Os ydy’r opsiwn Tymor wedi’i ddewis yn y gwymplen Cyfranogiad, gallwch chi weld dyddiadau dechrau a gorffen y tymor [3]. Dim ond gweinyddwyr Canvas sy’n gallu addasu dyddiadau’r tymor. Os nad oes dyddiadau wedi cael eu creu ar gyfer y tymor (fel pan fo Tymor Diofyn yn cael ei ddefnyddio), bydd y meysydd Dechrau a Gorffen yn wag.

Nodiadau:

  • Os ydy’r cwrs wedi’i neilltuo i’r Tymor Diofyn a bod y dyddiadau cyfranogiad wedi’u gosod i ddilyn dyddiadau’r tymor, mae myfyrwyr yn gallu cymryd rhan yn y cwrs yn ddiderfyn.
  • Wrth osod dyddiad dechrau a gorffen ar gyfer cwrs gall addysgwyr weld y cylchfaoedd amser lleol a cwrs sydd wedi’i gosod ar gyfer y cwrs [4] ac amser lleol y defnyddiwr [5].

Pennu Dyddiadau Cyfranogiad Cwrs

Pennu Dyddiadau Cyfranogiad Cwrs

I osod dyddiadau dechrau a gorffen cyfranogiad gwahanol i’ch cwrs, cliciwch y gwymplen Cyfranogiad (Participation) [1] a dewis yr opsiwn Cwrs (Course) [2].

Os nad ydych chi’n gallu newid beth sy’n cael ei ddangos yn y gwymplen Cyfranogiad, mae eich sefydliad wedi atal addysgwyr rhag addasu dyddiadau argaeledd cyrsiau [3].

Nodyn: Mae dyddiadau cwrs yn cael eu clirio pan fo dyddiadau cyfranogiad yn cael eu gosod i ddyddiadau Tymor.

Pennu Dyddiad Dechrau

Pennu Dyddiad Dechrau

I ddewis y dyddiad dechrau, cliciwch yr eicon calendr Dechrau (Start) [1]. Yna dewiswch ddyddiad dechrau newydd ar gyfer y cwrs [2].

Pennu Dyddiad Gorffen

Pennu Dyddiad Gorffen

I ddewis y dyddiad gorffen, cliciwch yr eicon calendr Gorffen (End) [1]. Yna dewiswch ddyddiad gorffen newydd ar gyfer y cwrs [2].

Pennu Dyddiad Gorffen

Os yw eich amser gorffen am hanner nos, bydd neges rhybudd yn ymddangos i roi gwybod i chi mai’r dyddiad cyn y dyddiad gorffen sydd wedi’i bennu fydd y diwrnod cyfranogiad olaf ar y cwrs. Er enghraifft, os yw'r cwrs wedi'i bennu i orffen ar 13 Ionawr, y dyddiad cyfranogiad olaf ar gael ar gyfer y cwrs fyddai 12 Ionawr.

Nodiadau:

  • Dim ond rhwng dyddiadau'r cwrs y bydd modd i fyfyrwyr gymryd rhan yn y cwrs, bydd y cwrs mewn cyflwr darllen yn unig y tu all i ddyddiau'r cwrs.
  • Dydy’r dyddiadau cyfranogiad ddim ond yn effeithio ar rolau myfyrwyr ac arsyllwr yn unig, mae pop rôl arall yn dychwelyd i ddyddiadau mynediad at y tymor yn ddiofyn.
  • Mae dyddiadau gorffen yn digwydd ar yr union funud y cawson nhw eu gosod. Er enghraifft, bydd cwrs sydd ag amser gorffen o 11:59pm yn gorffen am 11:59:00.
  • Ni fydd myfyrwyr yn cael hysbysiadau ar gyfer cyhoeddiadau cwrs cyn dyddiad dechrau’r cwrs.

Cyfyngu Mynediad at Gwrs

Cyfyngu Mynediad at Gwrs

Efallai hefyd y byddwch yn gallu newid gosodiadau mynediad myfyrwyr i ganiatáu neu i atal myfyrwyr rhag gweld eich cwrs cyn y dyddiad dechrau neu’r dyddiad gorffen. Pan fydd y cwrs wedi’i ddewis ni fydd ar gael y tu allan i ddyddiadau’r cwrs. Os yw dyddiadau cwrs yn wag, gall myfyrwyr gymryd rhan yn y cwrs yn ddiderfyn.

Nodyn: Os nad ydych chi’n gallu rheoli’r gosodiadau i rwystro myfyrwyr rhag gweld cynnwys cwrs, nid yw eich sefydliad wedi galluogi’r nodwedd hon.

Diweddaru Manylion Cwrs

Diweddaru Manylion Cwrs

Cliciwch y botwm Diweddaru Manylion Cwrs (Update Course Details).