Sut ydw i’n rheoli cynnwys ar gyfer cwrs sy’n gysylltiedig â chwrs glasbrint?

Os oes eiconau Glasbrint ar eich tudalennau mynegai cynnwys, yna mae eich cwrs yn gysylltiedig â chwrs glasbrint. Mae Cyrsiau Glasbrint yn gyrsiau sy’n cael eu rheoli fel templed a gallant gynnwys gwrthrychau wedi’u cloi ac wedi’u rheoli gan weinyddwr, dylunydd cyrsiau, neu addysgwr arall yn Canvas. Gall gwrthrychau wedi’u cloi gynnwys priodoleddau ar gyfer cynnwys, pwyntiau, dyddiadau erbyn a dyddiadau ar gael. Gall priodoleddau fod yn berthnasol i rai mathau o wrthrychau neu i bob math ohonynt: aseiniadau, trafodaethau, tudalennau, ffeiliau a chwisiau.

Gwrthrychau Wedi’u Cloi

Does dim modd rheoli unrhyw wrthrychau wedi’u cloi yn eich cwrs. Mae gwrthrychau wedi’u cloi yn gorfodi’r priodoleddau sydd wedi’u diffinio gan eich gweinyddwr Canvas, a all ymwneud â chynnwys, gwerthoedd pwyntiau, dyddiadau erbyn a dyddiadau ar gael. Gallwch weld priodoleddau sydd wedi’i cloi drwy edrych ar wrthrych unigol sydd wedi’i gloi.

Gellir newid priodoleddau ar gyfer gwrthrychau sydd wedi’u cloi o’r cwrs glasbrint unrhyw bryd. Bydd unrhyw newid i briodoledd ar ôl hynny'n berthnasol i bob gwrthrych sydd wedi’i gloi yn eich cwrs. Os caiff priodoledd ei newid yn y cwrs glasbrint, bydd unrhyw briodoleddau wedi’u cloi yn eich cwrs, sy'n amrywio o briodoleddau wedi’u cloi yn y cwrs glasbrint, yn arwain at newidiadau heb eu cysoni yn y cwrs glasbrint ac yn diystyru eich cwrs.

Mae Gosodiadau Cwrs, gan gynnwys y ddewislen Crwydro'r Cwrs, yn gallu bod yn rhan o gysoni cwrs glasbrint.

Gwrthrychau wedi’u Datgloi

Gallwch reoli unrhyw wrthrychau sydd wedi’u datgloi yn eich cwrs. Os ydych chi’n addasu unrhyw wrthrychau sydd wedi’u datgloi, ni fydd gwrthrychau sydd wedi’u datgloi'n cael eu diystyru gan unrhyw newidiadau sydd wedi’u cysoni o'r cwrs glasbrint. Hefyd, ni fydd unrhyw wrthrychau newydd rydych chi’n eu creu yn eich cwrs yn cynnwys eicon glasbrint ac ni allant gael eu cysylltu â’r cwrs glasbrint.

Cofiwch y gall gwrthrychau sydd wedi’u datgloi o’r glasbrint gael eu cloi unrhyw bryd. Os ydych chi eisoes wedi tynnu gwrthrych wedi’i ddatgloi o’ch cwrs, bydd unrhyw wrthrychau sy'n cael eu cloi’n ddiweddarach yn y cwrs glasbrint yn cael eu diystyru yn eich cwrs.

Rheoli Gwrthrychau

Mae’r wers hon yn dangos sut mae gweld gwrthrychau o’r dudalen Aseiniadau. Hefyd, caiff gwrthrychau wedi’u cloi a gwrthrychau wedi’u datgloi eu dangos ar y tudalennau Ffeiliau, Modiwlau, Tudalennau a Chwisiau.

Yn Modiwlau, dim ond eitemau modiwl unigol y bydd modd eu cloi. Gallwch chi reoli modiwlau a gwrthrychau wedi’u datgloi eich hun yn y modiwlau. Fodd bynnag, cofiwch y gall yr ymddygiadau canlynol fod yn berthnasol unrhyw bryd:

  • Bydd modiwlau newydd yn ymddangos ar waelod y dudalen Modiwlau. Mae’r modiwlau hyn yn fodiwlau newydd sydd wedi’u hychwanegu at y cwrs glasbrint ac sydd wedi’u cysoni â chyrsiau cysylltiedig.
  • Os ydych chi’n aildrefnu modiwlau neu eitemau modiwl, bydd unrhyw brosesau cysoni ychwanegol ar y cwrs yn diweddaru eich modiwlau yr un fath â strwythur y cwrs glasbrint. Os ydych chi’n symud eitem modiwl i fodiwl arall, bydd yr eitem modiwl yn bodoli yn y ddau fodiwl.
  • Os ydych chi’n dileu modiwl sydd wedi’i greu o’r cwrs glasbrint, ni fydd y modiwl yn cael ei adfer wrth gysoni unrhyw beth arall yn y cwrs.
  • Os ydych chi’n creu eitemau modiwl newydd ac yn cysoni unrhyw beth arall yn y cwrs, bydd eich eitemau newydd yn cael eu cadw ond byddant yn cael eu hailosod uwchben yr holl eitemau modiwl wedi’u cysoni â glasbrint.

Nodiadau:

Agor Cwrs

Agor Cwrs

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses) [1], yna cliciwch enw’r cwrs [2].

Agor Aseiniadau

Agor Aseiniadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Aseiniadau (Assignments).

Note: Hefyd, mae modd gweld gwrthrychau glasbrint ar y tudalennau Ffeiliau, Modiwlau, Tudalennau a Chwisiau.

Gweld Eiconau Gwrthrychau

Gallwch weld statws pob gwrthrych ar unrhyw dudalen Mynegai. Mae sgwariau gwyn yn dangos bod y gwrthrych wedi’i ddatgloi [1]. Mae sgwariau gydag eicon ar glo yn dangos bod y gwrthrych wedi’i gloi [2]. Mae’r testun sydd i’w weld wrth hofran hefyd yn cadarnhau statws y gwrthrych.

Gweld Gwrthrych Heb Eicon

Ni fydd unrhyw gynnwys newydd rydych chi’n ei greu yn eich cwrs yn cynnwys eicon glasbrint ac ni fydd modd ei gysylltu â'r cwrs glasbrint.

Gweld Statws mewn Gwrthrych Unigol

Bwrdd Gwaith

Ac eithrio mewn Ffeiliau, mae modd gweld statws glasbrint a phriodoleddau wedi’u cloi mewn gwrthrychau unigol.

Gellir gweld statws ffeiliau ar y Dudalen Mynegai Ffeiliau yn unig.

Gweld Gwrthrych Wedi’i Ddatgloi

Gweld Gwrthrych Wedi’i Ddatgloi

Mae gwrthrychau sydd wedi’u datgloi’n gallu cael eu golygu, eu cyhoeddi a’u rheoli fel unrhyw wrthrych arall yn Canvas. Yr unig wahaniaeth yw bod y dudalen yn nodi bod y gwrthrych yn rhan o gwrs glasbrint.

Mae modd addasu cynnwys wedi’i ddatgloi unrhyw bryd. Os ydych chi’n addasu cynnwys sydd wedi’i ddatgloi, ni fydd yn cael ei ddiystyru gan newidiadau ychwanegol a gaiff eu cysoni o'r cwrs glasbrint.

Note: Ni fydd cynnwys newydd y byddwch chi’n ei greu yn eich cwrs yn gysylltiedig â'r cwrs glasbrint ac ni fydd yn dangos y dynodiad Glasbrint.

Gweld Gwrthrych Wedi’i Gloi

Gweld Gwrthrych Wedi’i Gloi

Ar gyfer gwrthrychau wedi’u cloi, mae'r dudalen unigol yn dangos y priodoleddau sydd wedi’u cloi, sydd wedi’i gosod gan eich sefydliad.

Ymysg priodoleddau y gellir eu cloi mae cynnwys (gan gynnwys teitl y gwrthrych), pwyntiau, dyddiadau erbyn a dyddiadau ar gael.

Golygu Gwrthrych Wedi’i Gloi

Golygu Gwrthrych Wedi’i Gloi

Pan fyddwch chi'n golygu cynnwys mewn gwrthrych wedi’i gloi, nid oes modd golygu priodoleddau sydd wedi’u cloi.