Sut ydw i’n rhoi credyd ychwanegol mewn cwrs?

Nid yw credyd ychwanegol yn ddewis diofyn yn Canvas ar hyn o bryd. Ond, gallwch chi roi credyd ychwanegol i fyfyrwyr gan ddefnyddio amrywiaeth o opsiynau.

Sylwch:

  • Os ydych chi’n pwysoli eich grwpiau aseiniadau, sylwch fod grwpiau wedi’u pwysoli yn gallu effeithio ar y Llyfr Graddau os yw aseiniadau’n werth dim pwyntiau.
  • Os oes gennych chi reolau gollwng wedi’u gosod mewn grŵp aseiniadau, efallai y bydd ychwanegu pwyntiau ychwanegol yn effeithio ar sgôr eich myfyrwyr.

Creu Aseiniadau Newydd gyda Gwerth Dim Pwynt

Creu Aseiniadau Newydd gyda Dim Cyflwyniad

Creu aseiniad newydd gyda dim pwyntiau posib [1] a dewis unrhyw fath o gyflwyniad [2]. Mae aseiniadau sydd wedi’u gosod i’r math Dim Cyflwyniad yn gweithio’n dda ar gyfer gweithgareddau dosbarth, fel cyflwyniadau neu drafodaeethau yn y dosbarth.

Ar ôl i fyfyrwyr gwblhau cyflwyniad ar-lein neu gwblhau a chyflwyno gwaith all-lein, gallwch chi ychwanegu ac addasu pwyntiau yn y Llyfr Graddau.

Nodyn: Er mwyn i aseiniad dim pwyntiau gael ei ystyried yng ngradd eich myfyriwr, rhaid i chi ychwanegu gwerth pwynt positif at o leiaf un aseiniad ychwanegu mewn unrhyw grŵp aseiniadau.

Ychwanegu Pwyntiau Ychwanegol at Aseiniad Cyfredol

Ychwanegu Pwyntiau Ychwanegol at Aseiniad Cyfredol

Ychwanegu pwyntiau ychwanegol at Aseiniad rydych chi eisoes wedi’i greu Rhowch y pwyntiau ychwanegol yn y Llyfr Graddau eich hun.

Er enghraifft, mae’r aseiniad hwn werth 40 pwynt. Bydd ychwanegu 5 pwynt ychwanegol yn dod â chyfanswm yr aseiniad ar gyfer y myfyriwr hwn i 45 pwynt. Bydd y pwyntiau ychwanegol yn cynyddu’r cyfanswm pwyntiau sydd wedi’i gyfrifo yng ngradd derfynol y Llyfr Graddau.

Ychwanegu Pwyntiau Ystumio at Gwis

Gallwch chi ddefnyddio Pwyntiau ystumio yn SpeedGrader i ychwanegu pwyntiau at gwis. Mae pwyntiau ystumio yn gadael i chi addasu cyfanswm sgôr cwis eich hun.

Creu Credyd Ychwanegol gyda Chyfarwyddyd Sgorio

Creu Credyd Ychwanegol gyda Chyfarwyddyd Sgorio

Ychwanegwch Faen Prawf ychwanegol at Gyfarwyddyd Sgorio i gael credyd ychwanegol. Gwnewch yn siŵr bod y cyfarwyddyd sgorio yn werth mwy na’r aseiniad a gallwch chi roi pwyntiau ychwanegol neu beidio i fyfyrwyr heb effeithio ar y pwyntiau aseiniad go iawn.

Ychwanegwch Bwyntiau Ychwanegol gan ddefnyddio Cyfarwyddyd Sgorio yn SpeedGrader

Ychwanegwch Bwyntiau Ychwanegol gan ddefnyddio Cyfarwyddyd Sgorio yn SpeedGrader

Gallwch chi ychwanegu credyd ychwanegol gan ddefnyddio cyfarwyddyd sgorio yn SpeedGrader. Rhowch werth pwynt sy’n fwy na’r pwyntiau posib ar gyfer maen prawf [1]. Bydd y cyfrifiad Cyfanswm Pwyntiau yn adlewyrchu unrhyw bwyntiau ychwanegol sy’n cael eu rhoi ar gyfer pob Maen Prawf [2].

Nodyn:

  • Yn y Cyfarwyddyd Sgorio Clasurol, i SpeedGrader ddiweddaru’r gwerth pwynt cyfarwyddyd sgorio’n awtomatig ar gyfer graddio, dewiswch y blwch ticio Defnyddio’r cyfarwyddyd sgorio hwn ar gyfer graddio aseiniad (Use this rubric for assignment grading) wrth ychwanegu’r Cyfarwyddyd Sgorio at aseiniad. Fel arall, gallwch chi uwchraddio’r maes gradd eich hun.
  • Os yw eich sefydliad chi’n galluogi’r opsiwn adnodd Gwelliannau i Gyfarwyddyd Sgorio (Rubric Enhancements), gall rhyngwyneb cyfarwyddyd sgorio amrywio.

Ychwanegwch Bwyntiau Ychwanegol gan ddefnyddio SpeedGrader

Ychwanegwch Bwyntiau Ychwanegol gan ddefnyddio SpeedGrader

Gallwch chi ychwanegu pwyntiau ychwanegol eich hun drwy olygu’r radd sydd wedi’i dangos yn y maes Gradd yn SpeedGrader.

Creu Credyd Ychwanegol gyda Grwpiau Aseiniadau

Rhaid i aseiniadau fod mewn grŵp aseiniadau. Gall grwpiau aseiniadau fod heb eu pwysoli neu wedi’u pwysoli, yn dibynnu ar sut rydych chi eisiau graddio myfyrwyr yn eich cwrs.

Dysgwch fwy am roi credyd ychwanegol gan ddefnyddio grwpiau aseiniadau.

Sylwch:

  • Dylai aseiniadau yn y grŵp aseiniadau credyd ychwanegol gaeel eu graddio ar ddiwedd y cwrs, ar ôl i bob i aseiniad cwrs gael ei raddio.
  • Dylai fod gan bob grŵp aseiniadau arall yn y cwrs o leiaf un aseiniad wedi’i raddio er mwyn i gyfrifiad y grŵp aseiniadau credyd ychwanegol effeithio ar raddau myfyrwyr yn gywir.

Creu Credyd Ychwanegol gan ddefnyddio Grwpiau Aseiniadau heb eu Pwysoli

Creu Credyd Ychwanegol gan ddefnyddio Grwpiau Aseiniadau heb eu Pwysoli

Pan fo grwpiau aseiniadau heb eu pwysoli (not weighted), gallwch chi greu aseiniadau credyd ychwanegol yn eu grŵp aseiniadau eu hunain os hoffech. Efallai y byddwch chi eisiau creu grŵp ar wahân i helpu i wahaniaethu rhwng y gwahanol fathau o aseiniadau. Yn yr enghraifft hon, does dim pwyntiau posib yn y grŵp aseiniadau cyfan hwn [1].

Pan fo myfyriwr yn cwblhau’r gwaith sydd ei angen ar gyfer aseiniadau credyd ychwanegol, gallwch chi ychwanegu pwyntiau eich hun at y Llyfr Graddau.

Creu Credyd Ychwanegol gan ddefnyddio Grwpiau Aseiniadau wedi’u Pwysoli

Creu Credyd Ychwanegol gan ddefnyddio Grwpiau Aseiniadau wedi’u Pwysoli

Pan fo grwpiau aseiniadau wedi’u pwysoli, ni fydd Canvas yn cyfrifo graddau ar gyfer grŵp cyfan sydd hen bwyntiau posib. Felly, er mwyn i aseiniadau credyd ychwanegol gyfrifo’n gywir mewn grwpiau wedi’u pwysoli, rhaid iddyn nhw gael eu lleoli mewn grŵp aseiniadau cyfredol sydd ag o leiaf un aseiniad werth mwy na dim pwynt.

Yn yr enghraifft hon, mae’r aseiniad credyd ychwanegol wedi’i leoli yn y grŵp aseiniadau Credyd Ychwanegol gyda mwy nag un aseiniad werth mwy na dim pwynt [1]. Sylwch fod y grwpiau aseiniadau’n pwyso cyfanswm o 110% [2]. Bydd unrhyw aseiniad yn y grŵp aseiniadau Credyd Ychwanegol yn cael effaith bositif neu negatif ar radd gyffredinol eich myfyrwyr. Yn ogystal, os na fydd myfyriwr yn cyflwyno’r aseiniad credyd ychwanegol, ni fydd eu gradd yn cael ei effeithio’n negyddol.

Pan fo myfyriwr yn cwblhau’r gwaith sydd ei angen ar gyfer aseiniadau credyd ychwanegol, gallwch chi ychwanegu pwyntiau eich hun at y Llyfr Graddau.

Gwall gyda Grŵp Aseiniadau wedi’i Bwysoli

Gwall gyda Grŵp Aseiniadau wedi’i Bwysoli

Os byddwch chi’n creu eich aseiniadau credyd ychwanegol gyda dim pwyntiau yn eu grŵp aseiniadau eu hunain, ond eich bod chi’n penderfynu pwysoli eich grwpiau aseiniadau, ni fydd eich aseiniadau credyd ychwanegol yn cael eu cyfrifo’n gywir yn Canvas. Ni all Canvas gyfrifo grwpiau aseiniadau os nad oes pwyntiau posib. Er enghraifft, os oes gan y myfyriwr 12 pwynt o 0 pwynt posib, ni all Canvas bennu’r effaith ar y radd gyffredinol gan nad oes modd rhannu 12 â 0.

Bydd gwall yn ymddangos yn y golofn gradd gyflawn. Yn yr enghraifft hon, mae’r ddau aseiniad credyd ychwanegol (y ddau â dim pwyntiau posib) wedi cael eu rhoi mewn grŵp aseiniadau o’r enw Credyd Ychwanegol. Ond, mae’r grŵp aseiniadau wedi cael ei bwysoli. Mae’r hysbysiad rhybudd yn nodi nad yw’r sgôr yn cynnwys Credyd Ychwanegol (fel grŵp aseiniadau) gan nad oes gan y grŵp cyfan bwyntiau posib. Yn y sefyllfa hon, bydd yn rhaid symud yr aseiniadau i grŵp aseiniadau arall, neu bydd angen i chi gynnwys aseiniad yn y grŵp aseiniadau Credyd Ychwanegol sydd ag o leiaf un pwynt posib.