Sut ydw i’n gosod Tudalen Flaen mewn cwrs?

Tudalen Hafan y Cwrs yw’r peth cyntaf y bydd eich myfyrwyr yn ei weld pan fyddan nhw’n cyrraedd eich cwrs. Ar gyfer Tudalen Hafan y Cwrs, gallwch addasu tudalen o Dudalennau’ch cwrs a’i defnyddio fel Tudalen Hafan y Cwrs.

Os ydych chi am newid Tudalen Hafan y Cwrs am dudalen bersonol, rhaid i chi osod y dudalen fel y Dudalen Flaen i ddechrau. Mae’r Dudalen Flaen yn dangos i Canvas pa dudalen sy’n gallu cael ei defnyddio fel Tudalen Hafan y Cwrs. Defnyddiwch y dudalen hon i ddangos neges o groeso, dolenni, delweddau, neu wybodaeth arall ar gyfer myfyrwyr.

Nodiadau:

  • Cyn gosod y Dudalen Flaen, rhaid i’r dudalen gael ei chyhoeddi.
  • Gallwch olygu’r Dudalen Flaen, gosod tudalen wahanol fel y Dudalen Flaen, neu dynnu’r Dudalen Flaen.
  • Cyn gosod Tudalen Flaen, bydd y ddolen Tudalennau (Pages) yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs yn agor ar y Mynegai Tudalennau. Ond, ar ôl i chi ddewis Tudalen Flaen, bydd y ddolen Tudalennau (Pages) wastad yn agor ar y Dudalen Flaen. I ddychwelyd at y Mynegai Tudalennau, cliciwch y botwm Gweld Pob Tudalen (View All Pages).
  • Hefyd, mae modd gosod Tudalen Flaen yr adran Tudalennau i ddangos cyhoeddiadau diweddar y cwrs.

Agor Tudalennau

Agor Tudalennau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Tudalennau (Pages).

Gweld Pob Tudalen

Os yw’r dudalen flaen wedi cael ei dewis o’r blaen, bydd yn ymddangos.

I weld rhestr o holl dudalennau’r cwrs, cliciwch y botwm Gweld Pob Tudalen (View All Pages).

Gosod Tudalen Flaen yn y Rhestr Tudalennau

Dewch o hyd i’r dudalen rydych chi wedi'i chyhoeddi ac rydych am ei gosod fel eich Tudalen Flaen [1]. Cliciwch yr eicon Opsiynau [2] a dewiswch y ddolen Defnyddio fel Tudalen Flaen (Use as Front Page) [3].

Gweld Tudalen Flaen

Bydd y Dudalen Flaen yn cael ei dynodi gan dag Tudalen Flaen (Front Page) llwyd [1].

Gallwch newid y Dudalen Flaen i unrhyw dudalen arall yn y cwrs drwy ddewis yr eicon Opsiynau tudalen [2].

Gosod Tudalen Flaen o Dudalen Unigol

Hefyd, gallwch osod tudalen fel y Dudalen Flaen o unrhyw dudalen ar eich cwrs. Cliciwch enw unrhyw dudalen sydd wedi cael ei chyhoeddi ac rydych chi am ei gosod fel eich tudalen flaen.

Defnyddio fel Tudalen Flaen

Cliciwch yr eicon Opsiynau [1] a dewiswch y ddolen Defnyddio fel Tudalen Flaen (Use as Front Page) [2].

Tynnu Tudalen Flaen

I dynnu’r Dudalen Flaen, dewch o hyd i’r dudalen sydd â’r tag Tudalen Flaen (Front Page) [1]. Cliciwch yr eicon Opsiynau [2] a dewiswch yr opsiwn Tynnu fel Tudalen Flaen (Remove as Front Page) [3].