Sut ydw i’n creu banc cwestiynau mewn cwrs?

Mae Banciau Cwestiynau yn cadw cwestiynau sy’n gallu cael eu hychwanegu at gwisiau ar draws gyrsiau neu gyfrifon.

Agor Cwisiau

Agor Cwisiau

Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Cwisiau (Quizzes).

Rheoli Banciau Cwestiynau

Rheoli Banciau Cwestiynau

Cliciwch yr eicon Opsiynau (Options) [1] a chlicio'r ddolen Rheoli Banciau Cwestiynau (Manage Question Banks) [2].

Ychwanegu Banc Cwestiynau

Ychwanegu Banc Cwestiynau

Cliciwch y botwm Ychwanegu Banc Cwestiynau (Add Question Bank).

Creu Banc Cwestiynau

Creu Banc Cwestiynau

Rhowch enw i’r banc cwestiynau a phwyso Return (ar fysellfwrdd Mac) neu Enter (ar fysellfwrdd cyfrifiadur).

Agor Banc Cwestiynau

Agor Banc Cwestiynau

Agorwch y banc cwestiynau drwy glicio teitl y banc cwestiynau.

Opsiynau’r Banc Cwestiynau

Opsiynau’r Banc Cwestiynau

Ar ôl agor y Banc Cwestiynau, gallwch:

  1. Ychwanegu Cwestiwn
  2. Golygu Manylion y Banc Cwestiynau
  3. Symud Cwestiynau sydd â dewis o atebion
  4. Dileu Banc Cwestiynau
  5. Dilysu Nod tudalen Banc Cwestiynau (mae Banc Cwestiynau newydd yn cael nod tudalen yn awtomatig yn ddiofyn)
  6. Cysoni Deilliannau

Ychwanegu Cwestiwn

Cliciwch y botwm Ychwanegu Cwestiwn (Add a Question).

Creu Cwestiynau Newydd

Ychwanegwch gynifer o gwestiynau unigol ag yr hoffech chi i’ch banc cwestiynau. Cliciwch y botwm Diweddaru Cwestiwn (Update Question) i gadw’ch newidiadau.

Gweld Cwestiynau

Gweld y cwestiynau yn eich banc cwestiynau. I weld manylion cwestiwn, ticiwch y blwch Dangos Manylion Cwestiwn (Show Question Details).

Gallwch gyfeirio at y banc unigol hwn o gwestiynau mewn sawl cwis gwahanol.

Nodyn: Nid yw manylion cwestiynau ar gael mewn banciau cwestiynau sydd â mwy na 50 cwestiwn.