Sut ydw i’n defnyddio’r Rhestr Atgoffa wrth Greu Cwrs?

Y troeon cyntaf i chi greu cwrs newydd yn Canvas, mae’n her i gofio'r holl gamau sydd angen eu cymryd. Mae Rhestr Atgoffa wrth Greu Cwrs yn bodoli i’ch helpu chi i gofio popeth cyn i’r cwrs fod ar gael yn fyw.

Nodyn: Os nad yw eich cwrs yn cynnwys Rhestr Atgoffa wrth Greu, mae eich sefydliad wedi galluogi tiwtorial creu cwrs Canvas yn lle, sydd i’w weld ar dudalen Hafan y Cwrs ac ar bob tudalen mynegai yn newislen Crwydro'r Cwrs.

Agor Rhestr Atgoffa wrth Greu Cwrs

Yn Nhudalen Hafan y Cwrs, cliciwch y botwmRhestr Atgoffa wrth Greu Cwrs.

Gweld Rhestr Atgoffa wrth Greu Cwrs

Bydd y Rhestr Atgoffa wrth Greu Cwrs (Course Setup Checklist) yn eich helpu i greu cwrs newydd yn Canvas. Agorwch y rhestr atgoffa drwy glicio’r botwm Rhestr Atgoffa wrth Greu Cwrs (Course Setup Checklist). Bydd y rhestr yn eich atgoffa i wneud y canlynol:

  • Mewngludo cynnwys gyda’r Adnodd Mewngludo Cwrs (Course Import Tool)
  • Ychwanegu aseiniadau neu gragen aseiniadau ar y dudalen Aseiniadau (Assignments)
  • Ychwanegu defnyddwyr, fel myfyrwyr a'r cynorthwywyr dysgu, at y cwrs drwy’r dudalen Pobl (People)
  • Dewis y dolenni rydych chi am eu dangos yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs o dan y tab Crwydro yn Gosodiadau
  • Dewis cynllun ar gyfer tudalen Hafan y Cwrs
  • Ychwanegu digwyddiadau ac aseiniadau i galendr eich cwrs
  • Cyhoeddi'r cwrs, a fydd yn anfon gwahoddiadau dros e-bost yn awtomatig at unrhyw fyfyriwr rydych chi eisoes wedi’i ychwanegu at y cwrs (efallai does gennych chi ddim hawl i gwblhau'r cam hwn; efallai y bydd eich sefydliad yn cyhoeddi’ch cwrs i chi)

 

Nodyn: Pan fydd eich cwrs yn cynnwys cyflwyniad wedi’i raddio, does dim modd i chi ddad-gyhoeddi’ch cwrs.