Sut ydw i’n defnyddio'r bar dewislen yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog fel addysgwr?

Gallwch chi ddefnyddio’r bar dewislen i gael mynediad at yr offer a’r nodweddion sydd ar gael yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog. Gallwch chi gael mynediad at y bar dewislen gan ddefnyddio’r llygoden neu drwy bwyso’r bysellau Alt+F9 neu’r bysellau Option+F9 ar yr un pryd ar eich bysellfwrdd.

Gweld Bar Dewislen

Gweld Bar Dewislen

Bydd y bar dewislen yn ymddangos uwchben y Golygydd Cynnwys Cyfoethog [1]. Mae’r bar dewislen yn cynnwys yr un offer â’r bar offer [2], ond mewn fformat sy’n haws i’w ddefnyddio gyda bysellfwrdd.

I weld ffenestr gyda rhestr o fysellau crwydro hwylus, cliciwch yr eicon Bysellfwrdd (Keyboard) [3]neu pwyswch Alt+F8 (ar fysell cyfrifiadur) neu Option+F8 (ar fysell Mac) ar yr un pryd ar eich bysell.

Gweld y Ddewislen Olygu

Gweld y Ddewislen Olygu

I weld y ddewislen Olygu, cliciwch y ddolen Golygu (Edit) [1]. O’r ddewislen Olygu, gallwch chi ddadwneud newidiadau cynnwys [2], ailwneud newidiadau cynnwys [3], torri [4], copïo [5], gludo [6], gludo fel testun [7], a dewis yr holl gynnwys [8]. Gallwch chi hefyd weld y bysellau hwylus ar gyfer pob opsiwn golygu [9].

Gweld y Ddewislen Gwedd

Gweld y Ddewislen Gwedd

I weld y ddewislen Gwedd, cliciwch y ddolen Gweld (Gwedd) [1]. O’r ddewislen Gwedd, gallwch chi ehangu’r ardal cynnwys y golygydd i led eich porwr [2] ac agor y golygydd HTML [3].

Sylwch: Dydy’r golygydd HTML ddim yn gallu delio a sgrin lawn.

Gweld y Ddewislen Mewnosod

Gweld y Ddewislen Mewnosod

I agor y ddewislen Mewnosod, cliciwch y ddolen Mewnosod (Insert) [1]. I fewnosod dolen, cliciwch yr opsiwn Dolen (Link) [2]. Gallwch chi gysylltu ag URL allanol neu gynnwys cwrs.

I fewnosod delwed, cliciwch yr opsiwn Delwedd (Image) [3]. Gallwch chi lwytho delwedd newydd i fyny neu fewnosod delwedd o’ch ffeiliau defnyddiwr neu gwrs.

I fewnosod cyfryngau, cliciwch yr opsiwn Cyfryngau (Media) [4]. Gallwch chi recordio cyfryngau, llwytho cyfryngau i fyny, neu fewnosod cyfryngau o’ch ffeiliau defnyddiwr neu gwrs.

I fewnosod dogfen, cliciwch yr opsiwn Dogfen (Document) [5]. Gallwch chi lwytho dogfen i fyny neu fewnosod dogfen o’ch ffeiliau defnyddiwr neu gwrs.

I fewnosod hafaliad mathemategol, cliciwch yr opsiwn Hafaliad (Equation) [6].

I fewnosod tabl, cliciwch yr opsiwn Tabl (Table) [7].

I blannu cynnwys gan ddefnyddio cod plannu, cliciwch yr opsiwn Plannu (Embed) [8].

I fewnosod llinell lorweddol, cliciwch yr opsiwn Llinell Lorweddol (Horizontal Line) [9].

Gweld Dewislen Fformat

Gweld Dewislen Fformat

I agor y ddewislen Fformat, cliciwch y ddolen Fformat (Format) [1]. Gallwch chi ddewis sawl opsiwn fformatio [2], gan gynnwys trwm, italig, tanlinellu, llinell drwodd, uwchysgrif, isysgrif, a chod.

I agor y ddewislen Fformat, cliciwch yr opsiwn Fformat (Formats) [3]. Mae’r ddewislen Fformat yn gynnwys opsiynau ar gyfer penynnau, testun mewn-llinell, blociau, ac aliniad.

I weld a rheoli blociau, cliciwch yr opsiwn Blociau (Blocs) [4].

I ddewis ffont, cliciwch yr opsiwn Ffont (Fonts) [5].

I newid maint y ffont, cliciwch yr opsiwn Maint ffont (Font sizes) [6].

I reoli aliniad testun. Cliciwch yr opsiwn Alinio (Align) [7].

I newid cyfeiriad y testun, cliciwch yr opsiwn Cyfeirad (Directionality) [8]. Gallwch chi fformatio testun o’r chwith i’r dde ac o’r dde o’r chwith.

I ddewis lliw testun, cliciwch yr opsiwn Lliw testun (Text color) [9].

I ddewis lliw cefndir, cliciwch yr opsiwn Lliw cefndir (Backgroud color) [10].

I glirio fformatio, cliciwch y ddolen Clirio fformatio (Clear formatting) [11].

Gweld y Ddewislen Adnoddau

Gweld y Ddewislen Adnoddau

I agor y ddewislen Adnoddau, cliciwch y ddolen Adnoddau (Tools) [1].

I weld ystadegau cyfrif geiriau, cliciwch yr opsiwn Cyfrif geiriau (Word count) [2].

I blannu cynnwys o adnodd allanol, cliciwch yr opsiwn Apiau (Apps) [3].

I ganfod a disodli cynnwys, cliciwch yr opsiwn Canfod a Disodli (Find and Replace) [4]. Gallwch chi hefyd bwyso Command+F (ar fysellfwrdd Mac) neu Control+F (ar fysellfwrdd PC).

Gweld Dewislen y Tabl

Gweld Dewislen y Tabl

I weld dewislen y Tabl, cliciwch y ddolen Tabl (Table) [1].

I ychwanegu tabl newydd, cliciwch yr opsiwn Tabl (Table) [2].

I fformatio rhesi’r tabl, cliciwch yr opsiwn Rhes (Row) [3]. I fformatio colofnau’r tabl, cliciwch yr opsiwn Colofn (Column) [4]. I fformatio celloedd y tabl, cliciwch yr opsiwn Cell [5].

I weld priodweddau’r Tabl, cliciwch y ddolen Priodweddau’r tabl (Table properties) [6]. I ddileu’r Tabl, cliciwch yr opsiwn Dileu’r tabl (Delete table) [7].