Pa fath o aseiniadau alla i eu creu mewn cwrs?
Mae Canvas yn gallu delio â phum math o aseiniad: Aseiniadau, Trafodaethau, Cwisiau, Adnoddau Allanol, a Heb ei Raddio.
Fel addysgwr, gallwch chi ddewis math o aseiniad wrth greu cragen aseiniad. Ond, gallwch chi hefyd greu aseiniadau o fewn math o aseiniad drwy ymweld â Thudalen Mynegai gyfatebol pob math.
Aseiniad

Mae Aseiniad yn aseiniad Canvas y mae modd ei gyflwyno ar-lein drwy gofnod testun, ffeiliau wedi’u llwytho i fyny, recordiadau cyfryngau, adnoddau allanol, URLs, neu dudalennau Canvas. Mae Aseiniadau’n ymddangos ar y Dudalen Mynegai Aseiniadau, y Llyfr Graddau (wedi’u graddio’n unig), y Maes Llafur, ac ar Ddangosfwrdd y Defnyddiwr (wedi’u graddio’n unig).
Gall aseiniadau heb eu graddio gynnwys dyddiad erbyn, ond nid yw pwyntiau neu raddau’n cael eu rhoi am gwblhau’r aseiniad.
Mae modd neilltuo aseiniadau i adrannau, grwpiau, neu fyfyrwyr unigol.

Trwy Canvas, gall defnyddwyr adnabod aseiniadau gyda’r eicon Aseiniad.
Trafodaeth

Mae Trafodaeth yn aseiniad Canvas a fydd y graddio ymateb myfyrwyr i bynciau trafod. Bydd yr aseiniad hwn yn ymddangos ar y Dudalen Mynegai Aseiniadau (wedi’u graddio’n unig), y Dudalen Mynegai Trafodaethau, y Llyfr Graddau (wedi’u graddio’n unig), y Maes Llafur, ac ar Ddangosfwrdd y Defnyddiwr (wedi’u graddio’n unig).
Mae modd neilltuo trafodaethau i adrannau, grwpiau, neu fyfyrwyr unigol.

Trwy Canvas, gall defnyddwyr adnabod trafodaethau gyda’r eicon Trafodaeth.
Cwis

Mae Cwis yn aseiniad Canvas y mae modd ei ddefnyddio i gynnal arolwg neu i asesu dealltwriaeth myfyriwr o gynnwys cwrs. Bydd yr aseiniad hwn ymddangos ar y Dudalen Mynegai Aseiniadau (wedi’u graddio’n unig), y Dudalen Mynegai Cwisiau, y Llyfr Graddau (wedi’u graddio’n unig), y Maes Llafur, ac ar Ddangosfwrdd y Defnyddiwr (wedi’u graddio’n unig).
Mae modd neilltuo cwisiau i adrannau neu fyfyrwyr unigol; does dim modd eu neilltuo i grwpiau.

Trwy Canvas, gall defnyddwyr adnabod cwisiau gyda’r eicon Cwis.