Sut ydw i’n defnyddio Tudalen Hafan y Cwrs fel addysgwr?

Os ydych chi wedi ymrestru ar gwrs fel addysgwr, Tudalen Hafan y Cwrs yw’r dudalen gyntaf y bydd y myfyrwyr yn ei gweld wrth agor y cwrs. Mae’r Dudalen Hafan hefyd yn helpu myfyrwyr i ddeall sut y gallant grwydro’r cwrs. Mae modd addasu’r Dudalen Hafan i greu llif gwaith penodol ar gyfer eich myfyrwyr.

I’ch helpu chi i ddysgu sut mae crwydro cwrs Canvas, mae’r wers hon yn defnyddio cwrs sydd eisoes wedi’i lenwi. I ddysgu sut mae creu cwrs newydd, ewch i’r wers ar greu cragen cwrs newydd.

Nodyn: Os yw eich sefydliad wedi galluogi'r Tiwtorial Creu Cwrs, mae tudalennau cwrs fel Aseiniadau a Thrafodaethau yn defnyddio lled y porwr i gyd ac yn lleihau’r gwagle yn y bar ochr. Mae’r ymddygiad ymatebol hwn yn berthnasol i bob defnyddiwr yn eich sefydliad.

Gweld Tudalen Hafan y Cwrs

Mae Tudalen Hafan y Cwrs yn cynnwys y ddewislen Crwydro'r Cwrs [1], yr ardal cynnwys [2] a’r bar ochr [3].

I weld tudalen hafan y cwrs fel myfyrier, cliciwch y botwm Gwedd Myfyriwr (Student View) [4].

Nodiadau:

  • Os ydych chi’n edrych ar Canvas ar sgrin lai, bydd unrhyw gynnwys yn y bar ochr yn alinio â gwaelod y dudalen.
  • Os ydy’r ddolen crwydro’r cwrs ar gyfer y dudalen wedi’i hanalluogi ac wedi’i chuddio rhag myfyrwyr, ni fydd y botwm Gwedd Myfyriwr yn ymddangos.

Gweld y ddewislen Crwydro'r Cwrs

Gweld y ddewislen Crwydro'r Cwrs

Caiff Tudalen Hafan y Cwrs ei gweld drwy ddolen Hafan (Home) Crwydro'r Cwrs.

Mae'r ddewislen Crwydro'r Cwrs yn cynnwys dolenni sy’n eich helpu chi a’ch myfyrwyr i fynd i leoliadau penodol yn y cwrs. Fel addysgwr, gallwch chi ddewis pa ddolenni sy'n ymddangos yn eich cwrs. Gwybodaeth am y ddewislen Crwydro'r Cwrs.

Crebachu’r Ddewislen Crwydro'r Cwrs

Crebachu’r Ddewislen Crwydro'r Cwrs

I ehangu neu grebachu'r Ddewislen Crwydro'r Cwrs, cliciwch yr eicon Dewislen. Pan fyddwch chi’n dewis ehangu neu grebachu’r ddewislen crwydro'r safle cyfan, bydd eich dewis yn cael ei osod ar bob un o’ch cyrsiau.

Gweld Ardal Cynnwys

Gweld Ardal Cynnwys

Mae cynnwys y Dudalen Hafan (a holl gynnwys Canvas) yn ymddangos yn yr ardal cynnwys.

Gall y cynnwys fod yn dudalen, yn faes llafur, yn drafodaethau, yn gyhoeddiadau, yn gwisiau neu’n gynnwys wedi ei fewngludo fel y nodir yng nghynllun Tudalen Hafan eich Cwrs [1]. Mae modd dewis gweld cyhoeddiadau diweddar ar frig y dudalen hefyd [2]. Gall y cynnwys hefyd ddangos Ffrwd Gweithgarwch Cwrs.

Mae cynnwys y Dudalen Hafan hefyd yn diffinio pa adrannau sy'n ymddangos yn y bar ochr.

Gweld Briwsion Bara

Gweld Briwsion Bara

Mae briwsion bara yn ymddangos uwchben ardal cynnwys y cwrs.

Wrth i chi edrych ar gynnwys cwrs o’ch Tudalen Hafan, mae’r briwsion bara yn gadael llwybr ar eu hôl i ddangos eich lleoliad yn y cwrs. Gallwch chi ddilyn y dolenni hyn am yn ôl i fynd i gynnwys blaenorol.

Nodyn: Os ydych chi wedi creu enw byr ar gyfer cwrs, mae’r briwsion bara’r dangos yr enw byr i nodi’r cwrs. Neu, bydd y briwsion bara’n dangos cod y cwrs.

Gweld Bar Ochr

Gweld Bar Ochr

Mae’r bar ochr yn gweithredu yn yr un ffordd â bar ochr y Dangosfwrdd ond ei fod yn dangos cynnwys ar gyfer y cwrs penodol yn unig ac yn cynnwys opsiynau ychwanegol.

Ar frig y bar ochr [1], mae adnoddau cwrs ar gyfer rheoli eich cwrs.

Ar waelod y bar ochr [2], mae rhestr Tasgau, yn ogystal ag adrannau eraill gan ddibynnu ar y cynllun rydych chi wedi’i ddewis ar gyfer Tudalen Hafan y Cwrs.

Gweld Adnoddau Cwrs

Gweld Adnoddau Cwrs

Yn adran adnoddau cwrs y bar ochr, gallwch reoli Tudalen Hafan eich Cwrs yn ogystal â gweld botymau eraill defnyddiol ar gyfer eich cwrs.

I newid cynllun tudalen hafan y cwrs,, cliciwch y botwm Dewis Tudalen Hafan (Choose Home Page) [1].

Os yw Tudalen Hafan eich Cwrs yn dangos tudalen arall ar wahân i’r Ffrwd Gweithgarwch Cwrs, mae modd gweld gweithgarwch diweddar drwy glicio’r botwm Gweld Ffrwd Cwrs (View Course Stream) [2]. Mae gweithgarwch diweddar yn dangos yr holl weithgarwch a'r digwyddiadau diweddar y cwrs ar gyfer aseiniadau, cyhoeddiadau, trafodaethau a sgyrsiau. Ar ôl i'r Dudalen Hafan gael ei gosod fel Ffrwd Gweithgarwch Cwrs (Course Activity Stream), ni fydd y botwm hwn yn ymddangos.

Os yw eich bar ochr yn cynnwys botwm i’r Rhestr Atgoffa Wrth Greu Cwrs (Course Setup Checklist) [3], gallwch weld rhestr o eitemau ar y rhestr atgoffa er mwyn eich helpu i lenwi eich cwrs. Nodyn: Os na allwch chi weld y ddolen i’r Rhestr Atgoffa Wrth Greu Cwrs (Course Setup Checklist), bydd eich sefydliad wedi galluogi tiwtorial creu cwrs Canvas yn lle hynny.

I wneud cyhoeddiad newydd, cliciwch y botwm Cyhoeddiad Newydd (New Announcement) [4].

Ar ôl i chi gyhoeddi eich cwrs ac ar ôl i’ch myfyrwyr ddechrau cymryd rhan yn y cwrs, gallwch weld dadansoddiadau ar gyfer eich cwrs gyda’r botwm Gweld Dadansoddiadau Cwrs (View Course Analytics) [5]. Mae'n rhaid cael hawl gan eich gweinyddwr Canvas i weld dadansoddiadau cwrs.

I reoli hysbysiadau cwrs ar gyfer cwrs unigol, cliciwch y botwm Gweld Hysbysiadau Cwrs (View Course Notifications) [6]. Dydy gosodiadau hysbysiadau cwrs ddim ond yn berthnasol i’r cwrs y maen nhw wedi’u gosod ynddo.

Gweld Adrannau’r Bar Ochr

Gweld Adrannau’r Bar Ochr

Mae’r bar ochr bob amser yn dangos yr adran Tasgau (To Do) [1], sy'n dangos yr holl eitemau sydd angen eu graddio yn Canvas, waeth beth yw’r dyddiad erbyn. Mae pob eitem yn y rhestr Tasgau i’w Gwneud (To Do) yn dangos enw’r aseiniad, nifer y pwyntiau a'r dyddiad erbyn ar gyfer yr aseiniad. Gall rhai aseiniadau ddangos mwy nag un dyddiad erbyn. Mae eitemau yn aros yn yr adran hon am bedair wythnos. Fodd bynnag, mae aseiniadau nad ydynt yn cael eu graddio ac nad oes angen eu cyflwyno ar-lein yn ymddangos tan y dyddiad erbyn yn unig.

Gall y bar ochr hefyd gynnwys amrywiaeth o adrannau eraill [2], gan ddibynnu ar gynllun Tudalen Hafan eich Cwrs. Mae opsiynau bar ochr eraill yn cynnwys y rhestr Aseiniadau (Assignment) neu’r rhestr Ar y Gweill (Coming Up), Calendr a Grwpiau Aseiniadau ac Adborth Diweddar.

Rheoli Eitemau Bar Ochr

Rheoli Eitemau Bar Ochr

Mae eitem pob adran yn nodi sawl gwaith y mae’n rhaid i eitemau gael eu graddio [1].

Os yw adran yn cynnwys mwy o eitemau nag sydd wedi’u rhestru, bydd dolen yn ymddangos o dan y rhestr a bydd modd ei defnyddio i weld eitemau ychwanegol [2].

Os oes mwy na 100 eitem yn yr adran Tasgau i’w Gwneud (To Do), rhaid i chi gael gwared ag eitemau cyn y gallwch chi weld eitemau newydd. I gael gwared ag eitem ar y rhestr Tasgau i’w Gwneud, cliciwch yr eicon tynnu (remove) [3].

Nodyn: Pan fydd eitem yn cael ei dynnu, yr unig ffordd i'w adfer i'r adran Tasgau i’w Gwneud yw os bydd cyflwyniad newydd yn cael ei dderbyn ar gyfer yr aseiniad hwnnw, neu os yw cyflwyniad cyfredol yr aseiniad yn parhau i fod angen ei raddio.