Gallwch ddefnyddio testun, ffeil wedi’i hatodi, fideo neu glip sain i adael adborth i’ch myfyrwyr.
Bydd modd gweld sylwadau am yr aseiniad fel edefyn newydd yn Sgyrsiau (Conversations) hefyd.
Os yw eich myfyrwyr wedi cyflwyno aseiniad ysgrifennu a chithau’n awyddus i adael sylwadau yn y ddogfen, dysgwch sut mae defnyddio DocViewer Canvas yn SpeedGrader. Gall myfyriwr weld eich sylwadau yn DocViewer o dudalen Manylion Cyflwyniad (Submission Details) yr aseiniad.
Nodiadau:
Agorwch SpeedGrader o unrhyw aseiniad, trafodaeth wedi’i graddio, neu gwis.
Defnyddiwch y rhestr myfyrwyr i ddod o hyd i gyflwyniad myfyriwr.
Os yw myfyriwr wedi cyflwyno mwy nag un ymgais ar gyfer yr aseiniad, gallwch chi ddewis pa gyflwyniad i’w weld ac ychwanegu adborth. I ddewis cyflwyniad, cliciwch y gwymplen Cyflwyniad i’w weld (Submission to view) a dewis cyflwyniad. Mae cyflwyniadau’n cael eu trefnu yn ôl y dyddiad y cawson nhw eu cyflwyno.
Yn yr adran Sylwadau Aseiniad (Assignments Comments), gallwch bostio sylwadau i’r myfyriwr [1]. Bydd unrhyw sylwadau sydd wedi’u gwneud gan y myfyriwr yn ymddangos yn yr adran hon hefyd.
Nodyn: Os ydy’r nodwedd Gwelliannau Aseiniad yn gallu delio â’r aseiniad, efallai y bydd yr adran Sylwadau Aseiniad yn ymddangos fel Sylwadau ar gyfer y Cais hwn.
Bydd sylwadau ar gyflwyniadau grŵp nad ydynt wedi'u graddio’n unigol yn cael eu hanfon i'r grŵp cyfan [1].
Mae aseiniadau grŵp sydd wedi’u graddio’n unigol yn cynnwys opsiynau rhoi sylwadau. I anfon eich sylw at un myfyriwr mewn grŵp, dewiswch Anfon sylw at y myfyriwr hwn yn unig (Send comment to this student only) [2]. I anfon eich sylw at y grŵp cyfan, dewiswch Anfon sylw i'r grŵp cyfan (Send comment to the whole group) [3].
Nodyn: Efallai na fydd myfyriwr yn gallu gweld sylwadau aseiniad grŵp os nad ydyn nhw wedi’u neilltuo i grŵp ac os nad yw’r aseiniad wedi’i osod i raddio myfyrwyr yn unigol. Ond, bydd myfyrwyr yn gallu gweld y sylwadau hynny yn y dudalen Graddau.
I ychwanegu sylw at yr aseiniad, rhowch destun yn y maes Ychwanegu Sylw (Add a Comment) [1].
I ddefnyddio sylw o’r Llyfrgell Sylwadau, cliciwch yr eicon Llyfrgell Sylwadau [2].
I ehangu maint maes sylwadau, cliciwch a llusgo cornel y blwch testun [3].
I atodi ffeil i’r sylw, cliciwch y botwm Atodi.
I recordio sylw ar ffurf fideo neu sain, cliciwch yr eicon Cyfryngau.
Os ydych yn defnyddio Chrome, gallwch ddefnyddio’r adnodd adnabod llais i adael sylwadau.
Os yw wedi’i alluogi gan eich sefydliad, gallwch ychwanegu emojis at sylwadau ar gyflwyniadau.
I ddewis emoji, cliciwch y ddewislen emojis [1].
I ddefnyddio emoji a ddefnyddiwyd yn ddiweddar, cliciwch yr emoji yn y ddewislen defnyddiwyd yn ddiweddar [2].
Pan fyddwch chi’n creu sylw testun, cyfryngau, neu sain ac yn ceisio symud i’r myfyriwr nesaf neu’r myfyriwr blaenorol mewn aseiniad, byddwch chi’n cael gwybod bod y sylw wedi cael ei greu ond heb gael ei bostio.
I gadw'r sylw ar ffurf drafft i’w gyflwyno, cliciwch y botwm Bwrw ymlaen (Proceed) [1].
Gallwch chi ddewis peidio â chael gwybod am sylwadau sydd heb gael eu postio drwy glicio’r blwch ticio Peidio â dangos eto ar gyfer yr aseiniad hwn (Do not show again for this assignment) [2].
Nodiadau:
Os byddwch yn symud o'r dudalen SpeedGrader neu’n mynd i edrych ar gyflwyniad gan fyfyriwr arall cyn cyflwyno’ch sylw, mae Canvas yn rhoi gwybod bod eich sylw wedi cael ei gadw ar ffurf drafft. Gallwch fynd yn ôl i’r cyflwyniad unrhyw bryd a chyflwyno [1] neu ddileu [2] y sylw drafft. Does dim modd i fyfyrwyr weld sylwadau nes iddynt gael eu cyflwyno.
Cliciwch y botwm Cyflwyno (Submit).
Mae sylwadau’n cael eu rhoi mewn trefn gronolegol gyda’r sylwadau hŷn yn ymddangos ger y brig [1] a’r sylwadau mwy diweddar yn ymddangos yn y gwaelod [2].
Nodyn: Yn dibynnu ar faint ffenestr eich porwr, efallai y bydd sylwadau ym mlwch trafodaeth SpeedGrader yn ymddangos yn brin. Gallwch ddefnyddio’r bar sgrolio yn y blwch Trafodaeth i weld sylwadau ychwanegol neu sylwadau hirach.