Sut ydw i’n rheoli opsiynau nodweddion ar gyfer cwrs?
Mae rhai o nodweddion Canvas yn ddewisol neu’n newydd, a gellir eu rhoi ar waith neu eu diffodd. Mae’r wers hon yn rhoi trosolwg o sut i reoli opsiynau nodweddion ar lefel y cwrs. Ar lefel y cwrs, efallai y bydd cyfle i chi roi nodweddion ar waith fesul cwrs. Does gan addysgwyr ddim rheolaeth dros nodweddion lefel y defnyddiwr. I weld yr opsiynau nodweddion penodol ar lefel y cwrs sydd ar gael yn Canvas, ewch i ddogfen adnoddau Crynodeb Opsiynau Nodweddion (Feature Option Summary) Canvas.
Er mwyn i nodwedd ymddangos ar gyfer cwrs, rhaid i’r nodwedd gael ei datgloi ar gyfer eich sefydliad gan weinyddwr Canvas.
Sylwch:
- Ni fydd gosodiadau opsiwn nodwedd byth yn cael eu copïo o’r amgylchedd cynhyrchu a byddant bob amser yn cadw eu gosodiadau diofyn. Rhaid i opsiynau nodweddion gael eu rheoli'n unigol yn yr amgylchedd prawf a’r amgylchedd beta.
- Efallai na fydd rhai opsiynau nodwedd ar gael mewn cyfrifon Am-Ddim-i-Athrawon Ewch i’r ddogfen Cymharu Cyfrifon Canvas (Canvas Account Comparisons).
- Gallwch chi hefyd reoli rhai swyddogaethau cwrs drwy osod manylion ar gyfer cwrs.
Agor Gosodiadau Cwrs
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).
Agor Tab Opsiynau Nodweddion
Cliciwch y tab Opsiynau Nodweddion (Feature Options).
Gweld Opsiynau Nodweddion
Yn y tab Opsiynau Nodweddion (Feature Options), bydd rhestr o'r opsiynau nodweddion sydd ar gael yn ymddangos. Dim ond os yw’r nodweddion wedi'u galluogi gan weinyddwr ar gyfer cyfrif eich sefydliad y byddant ar gael.
Mae pob nodwedd cwrs yn cynnwys disgrifiad o’r nodwedd. Cliciwch yr eicon saeth wrth y nodwedd i ehangu blwch y nodwedd a dangos y disgrifiad.
Hidlo'r Opsiynau Nodwedd
I hidlo yn ôl pob nodwedd, nodweddion wedi'u galluogi neu nodweddion wedi'u hanalluogi, cliciwch y gwymplen Hidlo (Filter).
Chwilio Opsiynau Nodwedd
I chwilio am opsiwn nodwedd, teipiwch allweddair yn y maes Chwilio (Search).
Gweld Tagiau Nodweddion
Mae tagiau nodweddion yn helpu i adnabod cyflwr pob nodwedd. Mae nodwedd heb label yn golygu bod y nodwedd yn sefydlog ac yn barod i’w defnyddio yn eich amgylchedd cynhyrchu [1].
Mae nodweddion hefyd yn gallu cynnwys tag Rhagolwg Nodwedd (Feature Preview) [2], sy’n golygu bod y nodwedd wrthi’n cael ei datblygu. Gallwch chi optio i mewn i’r nodwedd ac ymuno â grŵp defnyddwyr y Gymuned i helpu i wella’r nodwedd drwy adborth uniongyrchol. Mae mynediad at y grŵp defnyddwyr wedi’i nodi yn nisgrifiad yr opsiwn nodwedd.
Gweld Cyflyrau Nodweddion
Mae pob nodwedd yn dangos cyflwr nodwedd sydd wedi ei osod gan eich gweinyddwr.
Mae nodweddion sydd wedi’u galluogi yn dangos eicon Wedi Galluogi (Enabled) [1].
Mae nodweddion sydd wedi’u hanalluogi yn dangos eicon Wedi Analluogi (Disabled) [2].
Sylwch:
- Ni fydd cyflyrau nodweddion sydd wedi cael eu cloi gan y gweinyddwr yn dangos yn rhestr Opsiynau Nodwedd (Feature Options) y cwrs.
- Mae nodweddion cwrs yn cael eu rhoi ar waith fesul cwrs.
Rheoli Cyflyrau Nodweddion
I alluogi neu analluogi nodwedd sydd heb ei chloi, cliciwch eicon Cyflwr (State) y nodwedd [1].
I alluogi’r nodwedd, cliciwch yr opsiwn Wedi Galluogi (Enabled) [2].
I analluogi’r nodwedd, cliciwch yr opsiwn Wedi Analluogi (Disabled) [3].
Sylwch:
- Ni fydd cyflyrau nodweddion sydd wedi cael eu cloi gan y gweinyddwr yn dangos yn rhestr Opsiynau Nodwedd (Feature Options) y cwrs.
- Yn dibynnu ar swyddogaeth y nodwedd pan fyddwch chi’n galluogi nodwedd Ar Waith (On), efallai y bydd Canvas yn dangos neges o rybudd yn gofyn i chi gadarnhau eich dewis, oherwydd gallai rhai nodweddion cwrs gael canlyniadau anfwriadol os byddan nhw’n cael eu diffodd.