Sut ydw i’n cysoni cynnwys cwrs mewn cwrs glasbrint fel addysgwr?

Os ydych chi wedi ymrestru ar gwrs glasbrint fel addysgwr, gallwch chi gysoni newidiadau i gynnwys glasbrint â chyrsiau cysylltiedig.

Cysoni Cynnwys

Ar i newid gael ei wneud i wrthrych neu briodoledd, mae bar ochr y cwrs glasbrint yn dangos dewis opsiwn cysoni sy’n nodi bod newidiadau heb eu cysoni wedi cael eu gwneud yn y cwrs. Gellir cysoni cynnwys unrhyw bryd.

Bydd holl gynnwys cwrs yn cael ei gynnwys wrth gysoni glasbrint, p’un ai a yw’r cynnwys wedi’i gloi ai peidio. Bydd cynnwys sydd wedi’i newid bob amser yn diystyru'r cynnwys presennol yn y cyrsiau cysylltiedig ar gyfer pob gwrthrych sydd wedi’i gloi. Ni effeithir ar gynnwys y gall addysgwr ei reoli na chynnwys newydd sydd wedi’i greu mewn cwrs cysylltiedig gan yr addysgwr.

Ni fydd modd anfon hysbysiadau mewn cyrsiau cysylltiedig oni bai fod yr hysbysiad wedi’i sbarduno. Efallai y bydd angen i nodweddion fel cyhoeddiadau mewn cwrs glasbrint gael eu creu fel negeseuon wedi’u gohirio fel bod y cyhoeddiadau'n ymddangos yn y cwrs cysylltiedig ar ôl cysoni cynnwys y cwrs.

Cyflwr Cynnwys

Bydd y broses cysoni yn cynnwys cyflwr pob gwrthrych fel y mae’n bodoli yn y cwrs glasbrint. Er enghraifft, os na fydd aseiniad wedi’i gyhoeddi yn y cwrs glasbrint, ni fydd wedi'i gyhoeddi yn y cwrs cysylltiedig chwaith. Fodd bynnag, ar ôl i'r cyflwr newid yn y cwrs cysylltiedig, ni fydd y cyflwr yn y cwrs glasbrint yn berthnasol mwyach.

Eithriadau i Fodiwlau

Os yw cwrs glasbrint yn cynnwys Modiwlau, caiff newidiadau i strwythur y modiwlau eu sbarduno wrth gysoni cwrs. Does dim modd cloi modiwlau, ond mae cyflwr y cwrs yn berthnasol i bob eitem modiwl unigol.

Mae’r eithriadau canlynol o ran cysoni yn berthnasol ar gyfer cynnwys Modiwlau:

  • Cyrsiau cysylltiedig sy’n cyd-fynd â strwythur modiwlau a grëwyd yn wreiddiol yn y cwrs glasbrint. Bydd unrhyw fodiwlau a chynnwys ychwanegol, sydd wedi’u hychwanegu at y cwrs glasbrint ac sydd wedi’u cysoni â chyrsiau cysylltiedig, bob amser yn cael eu hychwanegu at waelod y dudalen Modiwlau yn y cyrsiau cysylltiedig.
  • Os caiff modiwlau neu eitemau modiwl eu haildrefnu mewn cwrs cysylltiedig, bydd trefn y modiwlau’n cael ei diweddaru i gyd-fynd â strwythur y cwrs glasbrint wrth gysoni y tro nesaf. Os yw eitem modiwl mewn cwrs cysylltiedig wedi symud i fodiwl arall, bydd eitem y modiwl yn bodoli yn y ddau fodiwl.
  • Ni fydd modiwlau sydd wedi’u creu o gwrs glasbrint ac sydd wedi eu dileu o gwrs cysylltiedig yn cael eu hadfer wrth gysoni’r cwrs ar ôl hynny.
  • Bydd eitemau modiwl rydych chi wedi’u creu eich hun mewn cwrs cysylltiedig yn cael eu dangos uwchben yr holl eitemau modiwl sydd wedi’u cysoni yn y glasbrint. Bydd eitemau modiwl wedi'i mewngludo mewn cyrsiau cysylltiedig yn cael eu tynnu wrth gysoni glasbrint.

Nodiadau:

  • Nid yw newidiadau yng Ngosodiadau’r Cwrs yn arwain at newidiadau heb eu cysoni. Nid yw’r cwrs yn cydnabod newidiadau heb eu cysoni oni bai fod newid wedi ei wneud i gynnwys y cwrs.
  • Mae cyrsiau cysylltiedig yn dangos gwybodaeth am y broses cysoni glasbrint ddiweddaraf yng Ngosodiadau'r Cwrs.
  • Nid yw cyrsiau glasbrint yn cysoni rhai gosodiadau cwrs i gyrsiau cysylltiedig, gan gynnwys cylchfa amser, tymor, a fformat cwrs.

Agor Cwrs

Agor Cwrs

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses) [1], yna cliciwch enw’r cwrs [2].

Agor Bar Ochr Glasbrint

Ar Dudalen Hafan y Cwrs, cliciwch y tab Glasbrint (Blueprint).

Note: Gallwch hefyd weld bar ochr y Glasbrint (Blueprint) o unrhyw dudalen yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs.

Gweld Bar Ochr

Gweld Bar Ochr Glasbrint

Mae bar ochr y Glasbrint (Blueprint) yn rhoi mynediad cyflym at wybodaeth am gysoni glasbrint.  

Os oes unrhyw newidiadau wedi’u gwneud yn y cwrs, mae’r bar ochr yn dangos nifer y newidiadau sydd heb eu cysoni yn y cwrs [1]. Caiff holl gynnwys y cwrs ei gopïo wrth gysoni, p'un ai a yw'r gwrthrychau wedi’u cloi ai peidio. Yr unig eithriad yw Gosodiadau’r Cwrs, ac mae’n rhaid ei ddewis ar gyfer pob proses cysoni fel rhan o’r opsiynau cysoni [2]. Gallwch chi hefyd greu hysbysiad am y broses cysoni o'r bar ochr [3].

Os ydych chi’n gwybod pa gynnwys sy’n cael ei gysoni a’ch bod chi'n barod i gysoni eich cynnwys, gallwch chi gysoni diweddariadau’n uniongyrchol o’r bar ochr [4].

Gweld Newidiadau Heb eu Cysoni

Gweld Newidiadau Heb eu Cysoni

Os nad ydych chi’n siŵr pa gynnwys sy’n cael ei gysoni, neu os ydych chi am gadarnhau newidiadau presennol yn y cwrs, gallwch weld manylion penodol am y newidiadau sydd heb eu cysoni drwy glicio y ddolen Newidiadau Heb eu Cysoni (Unsynced Changes).

Mae’r dudalen Newidiadau Heb eu Cysoni (Unsynced Changes) yn dangos y cynnwys penodol sydd wedi’i ddiweddaru. Mae pob gwrthrych cynnwys yn dangos statws presennol y gwrthrych (wedi’i gloi neu wedi’i ddatgloi) [1], enw gwrthrych y cynnwys [2], y newid i’r cynnwys [3] a'r math o wrthrych cynnwys [4].

Mae newidiadau i gynnwys yn gallu cael eu creu, eu diweddaru neu eu dileu. Mae newidiadau wedi’u diweddaru’n dangos unrhyw newid i gynnwys presennol.

Dewis Opsiynau Cysoni

Dewis Opsiynau Cysoni

Mae Gosodiadau’r Cwrs yn cynnwys yr holl opsiynau gosodiadau yn y cwrs, gan gynnwys y ddewislen Crwydro'r Cwrs. I gysoni Gosodiadau’r Cwrs â chyrsiau cysylltiedig, ticiwch y blwch Cynnwys Gosodiadau’r Cwrs (Include Course Settings) [1].

Os ydych chi am anfon hysbysiad ynghylch cysoni’r glasbrint, ticiwch y blwch Anfon Hysbysiad (Send Notification) [2]. Gall gweinyddwyr ac addysgwyr eraill osod yr hysbysiad cysoni Glasbrint a chael diweddariadau pan fydd y broses cysoni wedi gorffen.

I ychwanegu neges yn rhan o hysbysiad, ticiwch y blwch Ychwanegu Neges (Add a Message) [3]. Gellir ychwanegu’r neges fel cyfeirnod i nodi pa newidiadau gafodd eu gwneud wrth gysoni ac sy’n ymddangos ar y dudalen Hanes Cysoni.

Cysoni Newidiadau

Cysoni Newidiadau

Cliciwch y botwm Cysoni (Sync).

Gweld Proses Cysoni

Gweld Prosesau Cysoni Cyrsiau Cysylltiedig

Ar ôl dechrau cysoni, bydd y bar ochr yn dangos y statws cysoni cyhyd â'ch bod chi’n edrych ar y dudalen. Gallwch adael y dudalen, ond efallai y bydd y broses cysoni yn cymryd rhywfaint o amser.

Nodiadau:

  • Os ydych chi’n edrych ar gwrs cysylltiedig yn syth wedyn ac yn methu gweld unrhyw ddiweddariadau, efallai bod y broses cysoni yn parhau. I gael cadarnhad eich bod wedi gorffen cysoni, mae angen i chi alluogi'r hysbysiad cysoni Glasbrint (Blueprint) yng Ngosodiadau’r Defnyddiwr.
  • Dim ond cynnwys cwrs meistr BluePrint fydd yn cysoni â chyrsiau cysylltiedig. Ni fydd cynnwys a gafodd ei ychwanegu gennych chi neu ei gopïo yn defnyddio fformat gwahanol yn cysoni.