Sut ydw i’n cysylltu â Google Drive fel gwasanaeth gwe yn Canvas fel addysgwr?
Mae gwasanaeth gwe Google Drive yn gadael i chi integreiddio Canvas gyda’ch cyfrif Google Drive. Mae pob defnyddiwr yn gallu awdurdodi eu cyfrifon Google Drive i gael gafael ar gydweithrediadau Google.
Os oes angen creu cyfrif Google Drive newydd arnoch chi, sylwch y gall fod oedi gydag integreiddio Google yn Canvas nes bod Google wedi cwblhau’r broses cyfrif.
Nodyn: Ar gyfer unrhyw un o’ch cyrsiau, os ydy’r Ddewislen Crwydro’r Cwrs yn cynnwys dolen Google Drive, mae eich sefydliad wedi galluogi integreiddio Google Drive cyffredinol. Does dim angen i chi alluogi Google Drive fel gwasanaeth gwe.
Agor Gosodiadau Defnyddiwr
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings) [2].
Cofrestru Google Drive
Yn Gwasanaethau Gwe, cliciwch y botwm Google Drive.
Awdurdodi Google Drive
Cliciwch y botwm Awdurdodi Mynediad Google Drive (Authorize Google Drive Access). Byddwch chi’n cael eich ailgyfeirio i Google i wirio’r awdurdodiad.
Dewiswch Gyfrif
Cliciwch y cyfrif rydych chi am ei awdurdodi.
Caniatáu Awdurdodi
Bydd Canvas yn gofyn caniatâd i weld a rheoli’r ffeiliau yn eich cyfrif Google Drive. Cliciwch y botwm Caniatáu (Allow).
Nodyn: Efallai y bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif Google cyn gweld y dudalen hon.
Gweld Gwasanaethau wedi'u Cofrestru
Gweld Google Drive fel gwasanaeth cofrestredig yn eich cyfrif Canvas.