Sut ydw i’n rheoli cyfarwyddiadau sgorio mewn cwrs?

Fel addysgwr, gallwch chi greu, golygu a dileu cyfarwyddiadau sgorio yn eich cwrs. Caiff cyfarwyddiadau sgorio eu defnyddio fel meini prawf ar gyfer myfyrwyr ac mae modd eu hychwanegu at aseiniadau, cwisiau a thrafodaethau wedi’u graddio.

Dysgu mwy am gyfarwyddiadau sgorio.

Nodiadau:

  • Does dim modd golygu cyfarwyddiadau sgorio ar ôl iddynt gael eu hychwanegu at fwy nag un aseiniad.
  • Pan fyddwch chi'n dileu cyfarwyddyd sgorio, bydd Canvas yn tynnu’r cyfarwyddyd sgorio o bob aseiniad cysylltiedig yn y cwrs ac yn tynnu unrhyw sgorau ac asesiadau presennol sy’n defnyddio'r cyfarwyddyd sgorio.

Agor Cyfarwyddiadau Sgorio

Agor Cyfarwyddiadau Sgorio

Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Cyfarwyddiadau Sgorio (Rubrics).

Gweld Cyfarwyddiadau Sgorio

Gweld Cyfarwyddiadau Sgorio

Ar y dudalen Rheoli Cyfarwyddiadau Sgorio (Manage Rubrics), gallwch chi weld yr holl gyfarwyddiadau sgorio sy'n bodoli eisoes yn eich cwrs.

Ychwanegu Cyfarwyddyd Sgorio

Ychwanegu Cyfarwyddyd Sgorio

I ychwanegu cyfarwyddiad sgorio, cliciwch y botwm Ychwanegu Cyfarwyddyd Sgorio (Add Rubric).

Gweld Cyfarwyddyd Sgorio

Gweld Cyfarwyddyd Sgorio

I weld cyfarwyddyd sgorio unigol, cliciwch enw'r cyfarwyddyd sgorio.

Golygu Cyfarwyddyd Sgorio

I olygu’r cyfarwyddyd sgorio, cliciwch y botwm Golygu Cyfarwyddyd Sgorio (Edit Rubric).

Gweld Cyfarwyddyd Sgorio Na Ellir Ei Olygu

Os yw cyfarwyddyd sgorio wedi cael ei ddefnyddio mewn mwy nag un aseiniad, ni fydd y botwm Golygu Cyfarwyddyd Sgorio (Edit Rubric) ar gael.

Fodd bynnag, gallwch greu copi o gyfarwyddyd sgorio a gwneud unrhyw newidiadau wrth ychwanegu cyfarwyddyd sgorio at aseiniad.

Golygu Manylion Cyfarwyddyd Sgorio

Golygu Manylion Cyfarwyddyd Sgorio

I ailenwi cyfarwyddyd sgorio, teipiwch yn y maes Teitl [1].

I ailenwi disgrifiad o faen prawf cyfarwyddyd sgorio neu ddisgrifiad hir, cliciwch yr eicon Golygu maen prawf [2]. Gallwch hefyd olygu graddau mawn prawf [3], ychwanegu graddau [4], a golygu pwyntiau [5].

I ddileu maen prawf o’r cyfarwyddyd sgorio, cliciwch yr eicon Dileu maen prawf [6].

Hefyd gallwch ychwanegu maen prawf [7] a deilliannau [8] newydd.

I gadw’r hyn rydych wedi’i olygu, cliciwch y botwm Diweddaru Cyfarwyddyd Sgorio [9].

I dynnu meini prawf deilliannau cysylltiedig o gyfarwyddyd sgorio, cliciwch yr eicon Dileu [10]. Dim ond ar y dudalen Deilliannau y mae modd golygu meini prawf Deilliannau.

Dileu Cyfarwyddyd Sgorio

Os ydych chi wedi creu cyfarwyddyd sgorio yn eich cwrs, gallwch ddileu'r cyfarwyddyd sgorio. I ddileu cyfarwyddyd sgorio, cliciwch y botwm Dileu Cyfarwyddyd Sgorio (Delete Rubric).

Gellir dileu cyfarwyddiadau sgorio hyd yn oed os ydynt wedi cael eu defnyddio mewn mwy nag un aseiniad.

Nodyn: Os na allwch chi ddileu cyfarwyddyd sgorio, mae’r cyfarwyddyd sgorio wedi cael ei greu ar lefel cyfrif ac wedi cael ei alinio ag aseiniad yn eich cwrs.

Cadarnhau Dileu Cyfarwyddyd Sgorio

Cliciwch y botwm Iawn (OK).

Pan fyddwch chi'n dileu cyfarwyddyd sgorio, bydd Canvas yn tynnu’r cyfarwyddyd sgorio o bob aseiniad cysylltiedig yn y cwrs ac yn tynnu unrhyw sgorau ac asesiadau presennol sy’n defnyddio'r cyfarwyddyd sgorio.