Sut ydw i’n gweld Dadansoddiadau Cwrs?
Bydd dadansoddiadau o gyrsiau yn rhoi gwybodaeth i chi am weithgarwch, gwaith a gyflwynir ar gyfer aseiniadau, graddau a myfyrwyr. Gallwch weld dadansoddiadau mewn cyrsiau gweithredol a chyrsiau sydd wedi dirwyn i ben. Gallwch chi hefyd weld ystadegau’r cwis sydd wedi’u cyhoeddi.
Sylwch:
- Bydd y nodweddion Dadansoddi sydd i’w gweld yn y wers hon yn cael eu tynnu yn y dyfodol a byddant yn cael eu disodli gan Ddadansoddiadau Newydd. Gweld rhagor o wybodaeth am ddefnyddio Dulliau Dadansoddi Newydd.
- Mae gweld dadansoddiadau yn un o hawliau cwrs. Os na allwch chi weld dadansoddiadau, mae’ch sefydliad wedi rhwystro’r nodwedd hon.
- Dydy’r botwm Dadansoddi ddim yn ymddangos nes bydd myfyrwyr wedi ymrestru ac wedi dechrau cymryd rhan yn y cwrs.
Agor Cwrs
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses) [1], yna cliciwch enw’r cwrs [2].
Agor Dadansoddiadau Cwrs
Cliciwch y botwm Gweld Dadansoddiadau Cwrs (View Course Analytics).
Gweld Graffiau Dadansoddiadau
Yn ddiofyn, bydd dadansoddiadau yn ymddangos mewn fformat graff. Mae tri math o graff: Gweithgarwch yn ôl Dyddiad, Cyflwyniadau a Graddau.
Gweld Gweithgarwch yn ôl Dyddiad
Mae’r graff Gweithgarwch yn ôl Dyddiad yn dangos holl weithgarwch y cwrs ar gyfer pob defnyddiwr yn y cwrs. Mae echelin x yn cynrychioli dyddiadau’r cwrs, ac echelin y yn cynrychioli nifer y tudalennau a welwyd. Mae barrau glas tywyll yn cynrychioli’r achosion o gymryd rhan yn y cwrs. Os yw dyddiad ond yn dangos y tudalennau a welwyd, dim ond bar glas golau fydd yn ymddangos.
Bydd y graff yn newid y bar sy’n ymddangos yn unol ag amser. Os yw gweithgarwch wedi digwydd o fewn y chwe mis diwethaf, barrau gweithgarwch dyddiol fydd yn ymddangos. Gyda gweithgarwch sydd dros chwe mis yn ôl, barrau gweithgarwch wythnosol fydd yn ymddangos, a barrau gweithgarwch misol fydd yn ymddangos ar gyfer gweithgarwch tua blwyddyn yn ôl. Gall maint ffenestr y porwr, lefel nesáu a phellhau, a chydraniad y sgrin newid sut mae'r barrau'n ymddangos.
I weld manylion y graff bar, dylech hofran dros y bar penodol rydych chi am ei weld. Mae’r wedd wythnosol yn dangos dyddiad cyntaf ac olaf yr wythnos; mae’r wedd fisol yn dangos y mis a’r flwyddyn.
Bydd y gweithredoedd canlynol gan ddefnyddiwr yn achos o gymryd rhan ar gyfer dadansoddiadau cwrs:
- Cyhoeddiadau: postio cyhoeddiad (addysgwr)
- Cyhoeddiadau: postio sylw newydd ar gyhoeddiad
- Aseiniadau: diweddaru disgrifiad o aseiniad neu ei osodiadau (addysgwr)
- Aseiniadau: cyflwyno aseiniad (myfyriwr)
- Calendr: diweddaru disgrifiad o ddigwyddiad calendr neu ei osodiadau (addysgwr)
- Cydweithrediadau: llwytho cydweithrediad i weld/golygu dogfen
- Cynadleddau: ymuno â gwe-gynhadledd
- Trafodaethau: postio sylw newydd ar drafodaeth
- Tudalennau: creu tudalen wiki
- Cwisiau: cyflwyno cwis (myfyriwr)
- Cwisiau: dechrau gwneud cwis (myfyriwr)
Gweld Cyflwyniadau
Mae’r Graff Cyflwyniadau yn dangos statws pob aseiniad yn y cwrs. Mae echelin x yn cynrychioli’r aseiniadau, ac echelin y yn cynrychioli canran y cyflwyniadau ar gyfer yr holl fyfyrwyr ar y cwrs.
Mae’r bar gwyrdd siâp crwn ar ran isaf y bar yn dangos faint o fyfyrwyr sydd wedi cyflwyno’r aseiniad yn brydlon [1]. Mae’r bar melyn ag ymylon syth yn dangos faint o fyfyrwyr sydd wedi cyflwyno’r aseiniad yn hwyr/ar ôl y dyddiad erbyn [2]. Mae’r bar coch siâp crwn ar ran uchaf y bar yn dangos faint o fyfyrwyr sydd heb gyflwyno’r aseiniad [3].
I weld manylion y graff bar, dylech hofran dros y bar penodol rydych chi am ei weld. Mae’r manylion yn cynnwys teitl yr aseiniad, y dyddiad erbyn (os oes un), a chanran y gwaith a gyflwynwyd yn hwyr, yn brydlon, ac sydd ar goll.
Nodyn: Dim ond hyd at ymylon y dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs y bydd y barrau’n ymestyn, hyd yn oed os oes aseiniad neu gwis sy’n ymestyn y tu hwnt i ddyddiadau dechrau a gorffen y cwrs. Bydd y graff yn cynnwys nodyn yn egluro bod rhai aseiniadau y tu allan i ddyddiadau’r cwrs.
Gweld Graddau
Mae’r graff Graddau yn dangos y sgorau cymedrig, uchel ac isel ar gyfer aseiniad. Mae echelin x yn cynrychioli pob aseiniad, ac echelin y yn cynrychioli nifer y pwyntiau ar gyfer aseiniad. Mae’r llinell las fertigol yn ymestyn o’r sgôr isaf i’r sgôr uchaf [1]. Mae’r blwch glas yn ymestyn o’r ganradd 25 i 75 [2]. Mae’r llinell ddu lorweddol yn dangos y sgôr gymedrig ar gyfer yr aseiniad [3]. Mae llinellau llwyd yn dangos aseiniadau wedi’u cuddio [4].
I weld manylion y graff bar, dylech hofran dros y bar penodol rydych chi am ei weld.
Gweld Tablau Dadansoddiadau
I weld dadansoddiadau heb hofran dros golofnau graffiau, gallwch weld yr holl ddata mewn fformat tabl. I newid i’r fformat tabl, cliciwch yr eicon Dadansoddi. Bydd yr eicon yn symud o’r ochr chwith i’r ochr dde, gan ddangos y wedd dadansoddi bresennol.
Gweld Data Tabl
Bydd tablau ar gyfer pob graff ar y dudalen berthnasol, a bydd pob colofn yn diffinio’r data yn y graff perthnasol. Mae data’r graff yn cael ei ddangos fesul colofn.
Gweld Dadansoddiadau Myfyrwyr
Mae Dadansoddiadau Myfyrwyr bob amser yn ymddangos mewn fformat tabl, ac yn rhoi golwg gyffredinol ar y ffordd mae myfyriwr wedi cymryd rhan yn y cwrs.
Gallwch weld enw’r myfyriwr [1], y tudalennau a welwyd [2], achosion o gymryd rhan [3], a chyflwyniadau [4].
Mae’r golofn cyflwyniadau’n dangos faint o aseiniadau wedi’u cyhoeddi ac wedi’u graddio y mae pob myfyriwr wedi'u cyflwyno ar y cwrs. Mae cyflwyniadau’n cael eu dadansoddi yn ôl faint o gyflwyniadau oedd yn brydlon [5], yn hwyr [6], ac sydd ar goll [7]. Cofiwch, er mwyn ystyried bod aseiniad ar goll, mae’n rhaid bod y dyddiad erbyn wedi mynd heibio ac nad yw wedi cael ei gyflwyno.
Gallwch hefyd weld canran sgôr bresennol myfyriwr [8], sef ei sgôr gyflawn yn y cwrs.
Mae’r tabl dadansoddiadau wedi’i dudalennu, felly gallwch weld mwy o fyfyrwyr wrth sgrolio i lawr y dudalen.
Trefnu Dadansoddiadau Myfyrwyr
Gallwch drefnu dadansoddiadau myfyrwyr yn ôl enw myfyrwyr, tudalennau a welwyd, achosion o gymryd rhan a sgôr bresennol – mewn trefn o’r dechrau i’r diwedd, neu o’r diwedd i’r dechrau. Bydd yr hidlyddion hyn yn gadael i chi werthuso perfformiad myfyriwr fel rydych chi’n dymuno.
Gweld Dadansoddiadau Myfyrwyr
I weld dadansoddiadau ar gyfer myfyriwr penodol, cliciwch enw’r myfyriwr.