Sut ydw i’n llwytho ffeil i fyny i gwrs?

Gallwch ychwanegu ffeil at eich cwrs drwy lwytho ffeil i fyny. Gallwch hefyd fewngludo ffeiliau gan ddefnyddio’r adnodd mewngludo cwrs yng Ngosodiadau’r Cwrs.

Fel addysgwr, gallwch lusgo a gollwng ffeiliau o'ch ffeiliau personol i ffeiliau cwrs.

Dysgu mwy am ffeiliau.

Nodiadau:

Agor Ffeiliau

Agor Ffeiliau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Ffeiliau (Files).

Llwytho Ffeil i Fyny

Cliciwch y botwm Llwytho i fyny (Upload).

Agor Ffeil

Agor Ffeil

Cliciwch deitl y ffeil rydych chi am ei llwytho i fyny [1] a chliciwch y botwm Agor (Open) [2].

Llwytho Ffeiliau i fyny drwy Lusgo a Gollwng

Llwytho Ffeiliau i fyny drwy Lusgo a Gollwng

Mae rhai porwyr gwe yn cynnwys nodwedd unigryw sy’n gadael i’r defnyddiwr ychwanegu at ffeiliau drwy lusgo a gollwng y ffeiliau o ffenestr ffeiliau yn syth i storfa ffeiliau Canvas. Cliciwch deitl y ffeil rydych chi am ei hychwanegu [1] a llusgwch y ffeil i’ch porwr sydd ar agor [2]. Bydd eich ffeil yn cael ei llwytho i fyny’n awtomatig.

Disodli Ffeil Ddyblyg

Disodli Ffeil Ddyblyg

Os oes ffeil gyda’r un enw yn bodoli’n barod yn y ffolder lle rydych chi’n llwytho eich ffeil i fyny, bydd angen i chi ddweud a ydych chi am ei disodli neu ei hailenwi.

I ailenwi’r ffeil, cliciwch y botwm Newid Enw (Change Name) [1]. Bydd yr opsiwn hwn yn creu copi dyblyg o’r ffeil gydag enw gwahanol.

I ddisodli’r ffeil, cliciwch y botwm Disodli (Replace) [2].

Gweld Cynnydd y broses Llwytho i Fyny

Gweld Cynnydd y broses Llwytho i Fyny

Bydd bar cynnydd yn ymddangos ar frig y sgrin, yn dilyn cynnydd y broses o lwytho eich ffeil i fyny.

Gweld Ffeil

Gweld Ffeil

Gweld eich ffeil newydd yn y cwrs.

Nodyn: Os ydych chi’n defnyddio Hawliau Defnyddio, bydd rhaid i chi osod hawliau defnyddio’r cwrs cyn y bydd modd cyhoeddi’r ffeil.