Beth yw’r gwahaniaeth rhwng dyddiadau erbyn a dyddiadau argaeledd aseiniad?

Yn ogystal â gosod dyddiad erbyn ar gyfer aseiniad, gall addysgwyr nodi ystod dyddiadau penodol pryd y gall myfyrwyr gyflwyno’r aseiniad. Mae’r dyddiadau hyn yn cael ei galw’n ddyddiadau argaeledd. Mae’r dyddiadau hyn yn ddewisol a gellir eu gosod yn dibynnu ar sut rydych chi am reoli’r aseiniad:

Yn Cwisiau, efallai y bydd dyddiadau argaeledd yn effeithio ar gyflwyniadau myfyrwyr. I gael rhagor o fanylion, ewch i’r wers dyddiadau argaeledd cwis.

Sylwch:

  • O dan y meysydd Dyddiad Erbyn (Due Date) a Dyddiad Ar Gael (Availability Date), mae Canvas yn dangos dyddiad ac amser y gylchfa amser yn ôl y cyd-destun Os ydych chi’n rheoli cyrsiau mewn cylchfa amser wahanol i’ch cylchfa amser leol ac yn creu neu’n golygu dyddiad erbyn aseiniad, yna mae amser y cwrs a’r amser lleol yn cael eu dangos er gwybodaeth.
  • Pan fydd Mwy nag un Cyfnod Graddio ar waith mewn cwrs, dim ond dyddiadau erbyn sy’n cael eu dilysu yn erbyn cyfnodau graddio wedi dod i ben. Nid yw’r dyddiadau argaeledd yn berthnasol.
  • Yn dibynnu ar eu gosodiadau hysbysu, bydd myfyrwyr yn cael hysbysiad os byddwch chi’n cyhoeddi aseiniad hyd yn oes os nad yw’r dyddiad argaeledd wedi’i fodloni.

Gweld Dyddiad Erbyn

Gweld Dyddiad Erbyn

Y Dyddiad a’r Amser Erbyn yw dyddiad ac amser cyflwyno’r aseiniad hwn. Bydd aseiniadau myfyrwyr sy’n cael eu cyflwyno ar ôl y dyddiad erbyn yn cael eu marcio’n hwyr yn y Llyfr Graddau. Nid yw Dyddiadau Erbyn yn ofynnol yn Canvas, ond maent yn helpu i reoli terfynau amser a llif gwaith cwrs.

Gallwch chi hefyd osod amser penodol fel rhan o’r dyddiad erbyn. Pan fyddwch chi’n newid amser erbyn ar aseiniad, mae’r gwerth eiliadau yn 0 yn ddiofyn oni bai bod y gwerth munudau wedi’i osod i 59, os felly, bydd yr eiliadau hefyd wedi’u gosod i 59. Er enghraifft os byddwch chi’n gosod dyddiad erbyn o Fedi 19 am 4:15 pm, bydd unrhyw gyflwyniad gan fyfyriwr sy’n cael ei wneud ar ôl Medi 19 am 4:15:01 yn cael ei farcio’n hwyr.

Os nad yw dyddiad yn cynnwys amser, bydd y dyddiad a restrir yn cael ei osod i ddyddiad diofyn y cwrs.

Gweld Dyddiadau Ar Gael

Gweld Dyddiadau Ar Gael

Os ydych chi eisiau creu ystod dyddiadau i fyfyrwyr weld a chyflwyno aseiniad, gallwch chi osod dyddiadau argaeledd. Mae dyddiadau argaeledd hefyd yn cael eu galw’n ddyddiadau cloi.

Ar gael o [1]: y dyddiad a’r amser pan fydd yr Aseiniadau ar gael i fyfyrwyr. Os nad yw dyddiad erbyn yn cynnwys amser, bydd y dyddiad a restrir yn cael ei osod i ddyddiad diofyn y cwrs. Does dim modd i fyfyrwyr weld cynnwys aseiniad nes bod y dyddiad Ar gael o wed bod.

Tan [2]. y dyddiad a’r amser pan na fydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno’r aseiniad mwyach Os nad oes amser wedi’i osod, bydd yr amser hwn yn cael ei osod i 11:59 pm yn ddiofyn ar gyfer cylchfa amser y cwrs a bydd yr aseiniad yn cau am 12:00:00 am y diwrnod canlynol.

Pan fydd yr aseiniad yn cael ei gyhoeddi, mae meysydd dyddiad argaeledd gwag yn gadael i’r aseiniad gael ei gyflwyno ar unrhyw adeg drwy gydol y cwrs.

Gweld Manylion Aseiniad

Gweld Manylion Aseiniad

Ar ôl i chi gadw’r aseiniad, gallwch chi weld manylion yr aseiniad. Os oes dyddiad erbyn gan yr aseiniad, mae’r dyddiad yn ymddangos o dan y penawd Erbyn (Due) [1]. Os oes dyddiadau argaeledd, maent yn ymddangos o dan y penawdau Ar gael o (Available from) a Tan (Until) [2].

Gallwch chi hefyd weld manylion yr holl aseiniadau ar y dudalen Mynegai Aseiniadau.

Gweld Atebion Cywir yn Cwisiau

Gweld Atebion Cywir yn Cwisiau

Yn Cwisiau, nid yw’r dyddiad Tan (Until) yn cyfyngu ar allu myfyriwr i weld canlyniad eu cwis. Er enghraifft, efallai na fyddwch chi eisiau i fyfyrwyr weld canlyniadau eu cwis ar ôl y dyddiad Tan. I wneud y newid hwn, bydd angen i chi olygu opsiynau’r cwis a chyfyngu canlyniadau’r cwis.

Golygu Dyddiadau Erbyn a Dyddiadau Argaeledd

Mae modd defnyddio Dyddiadau Erbyn a Dyddiadau Argaeledd gyda’i gilydd, yn dibynnu ar sut rydych chi am reoli’r aseiniad: Dyma rai senarios cyffredin y gallwch chi eu creu gyda dyddiadau. Mae pob enghraifft yn cynnwys Dyddiad Erbyn, er nad ydynt yn ofynnol ar gyfer aseiniadau.  

Creu Aseiniad Agored

Creu Aseiniad Agored

Os ydych chi eisiau cadw aseiniad ar agor trwy gydol y cwrs, peidiwch â gosod unrhyw ddyddiadau argaeledd. Pan nad oes dyddiadau argaeledd wedi’u gosod, mae modd i’r aseiniad gael ei gyflwyno gan bob defnyddiwr tan ddiwedd y cwrs.

Er enghraifft, os ydych chi eisiau i fyfyrwyr allu gweld a chyflwyno’r aseiniad ar unrhyw adeg ond gwobrwyo’r rheini sy’n cyflwyno erbyn dyddiad erbyn o Fedi 19 am 11:59 pm, gosodwch Ddyddiad Erbyn yn unig.

Mae Canvas yn gweld ac yn sgorio’r aseiniad fel a ganlyn:

  • Mae Canvas yn agor yr aseiniad i bob cyflwyniad gan fyfyrwyr ar ddiwrnod cyntaf y cwrs (yn ôl dyddiad y tymor a chylchfa amser y cwrs)
  • Yn y Llyfr Graddau, mae’r aseiniad yn cael ei farcio ar amser os yw wedi’i gyflwyno erbyn Medi 19 am 11:59 pm (yn ôl cylchfa amser y cwrs)
  • Yn y Llyfr Graddau, mae’r aseiniad yn cael ei farcio’n hwyr os yw wedi’i gyflwyno ar neu ar ôl Medi 20 am 12:00:00 pm (yn ôl cylchfa amser y cwrs)
  • Mae Canvas yn cau’r aseiniad i bob cyflwyniad gan fyfyrwyr ar ddiwrnod olaf y cwrs (yn ôl dyddiad y tymor a chylchfa amser y cwrs)

Nodyn: Mae amseroedd erbyn wedi’u gosod i 12am a 24:00 yn hunan-gywiro i 11:59pm a 23:59.

Cyfyngu ar Ddyddiad Ar Gael O Cyflwyniad

Cyfyngu ar Ddyddiad Ar Gael O Cyflwyniad

Os ydych chi eisiau atal myfyrwyr rhag gweld a chyflwyno aseiniad tan ddyddiad penodol, gosodwch ddyddiad Ar Gael O. Nid oes modd i fyfyrwyr weld cynnwys aseiniad tan ar ôl y dyddiad a’r amser Ar Gael O. Ond, mae modd i fyfyrwyr weld cyfarwyddiadau sgorio beth bynnag fo’r dyddiadau argaeledd.

Er enghraifft, os byddwch chi’n gosod dyddiad erbyn o Fedi 19 am 11:59 pm ar gyfer aseiniad, ond nad ydych chi eisiau i fyfyrwyr gyflwyno’r aseiniad tan Fedi 9 am 12 am, gosodwch y dyddiad Ar Gael O i Fedi 9 am 12 am.

Mae Canvas yn gweld ac yn sgorio’r aseiniad fel a ganlyn:

  • Mae Canvas yn agor yr aseiniad i bob cyflwyniad gan fyfyrwyr ar Fedi 9 am 12:00 am (yn ôl cylchfa amser y cwrs)
  • Yn y Llyfr Graddau, mae’r aseiniad ar amser os yw wedi’i gyflwyno erbyn Medi 19 am 11:59 pm (yn ôl cylchfa amser y cwrs)
  • Yn y Llyfr Graddau, mae’r aseiniad yn cael ei farcio’n hwyr os yw wedi’i gyflwyno ar neu ar ôl Medi 20 am 12:00:00 pm (yn ôl cylchfa amser y cwrs)
  • Mae Canvas yn cau’r aseiniad i bob cyflwyniad gan fyfyrwyr ar ddiwrnod olaf y cwrs (yn ôl dyddiad y tymor a chylchfa amser y cwrs)

Cyfyngu ar Ddyddiad Tan Cyflwyniad

Cyfyngu ar Ddyddiad Tan Cyflwyniad

Os ydych chi eisiau gadael i fyfyrwyr gyflwyno aseiniad tan ddyddiad penodol, gosodwch ddyddiad Tan. Mae’r dyddiad y byddwch chi’n ei osod yn dibynnu ar p’un ai ydych chi eisiau derbyn cyflwyniadau hwyr ai peidio. Ar ôl y dyddiad Tan, bydd myfyrwyr yn dal i allu gweld neu lwytho eu cyflwyniadau i lawr a gweld unrhyw sylwadau ar y cyflwyniad.

Dim cyflwyniadau hwyr—Nid yw rhai addysgwyr yn caniatáu cyflwyniadau hwyr drwy osod y Dyddiad Tan fel y Dyddiad Erbyn. Er enghraifft, os ydych chi eisiau gadael i fyfyrwyr weld yr aseiniad ar unrhyw adeg gyda dyddiad erbyn o Fedi 18 am 11:59 pm, ond nad ydych chi eisiau derbyn unrhyw gyflwyniadau hwyr, dylech chi hefyd osod y Dyddiad Tan i Fedi 19 am 11:59 pm.  

Mae Canvas yn gweld ac yn sgorio’r aseiniad fel a ganlyn:

  • Mae Canvas yn agor yr aseiniad i bob cyflwyniad gan fyfyrwyr ar ddiwrnod cyntaf y cwrs (yn ôl dyddiad y tymor a chylchfa amser y cwrs)
  • Yn y Llyfr Graddau, mae’r aseiniad ar amser os yw wedi’i gyflwyno erbyn Medi 19 am 11:59 pm (yn ôl cylchfa amser y cwrs)
  • Mae Canvas yn cau’r aseiniad i bob cyflwyniad gan fyfyrwyr ar Fedi 20 am 12:00 am (yn ôl cylchfa amser y cwrs)

 Nodyn: Mae amseroedd erbyn wedi’u gosod i 12am a 24:00 yn hunan-gywiro i 11:59pm a 23:59.

Caniatáu Cyflwyniadau Hwyr

Caniatáu cyflwyniadau hwyr—Mae rhai addysgwyr yn caniatáu cyflwyniad hwyr o fewn cyfnod penodol o amser ar ôl y dyddiad erbyn. Er enghraifft, os ydych chi eisiau gadael i fyfyrwyr gyflwyno aseiniad hwyr hyd at dri diwrnod ar ôl y dyddiad erbyn, gosodwch y Dyddiad Tan i Fedi 22 am 11:59 pm

Mae Canvas yn gweld ac yn sgorio’r aseiniad fel a ganlyn:

  • Mae Canvas yn agor yr aseiniad i bob cyflwyniad gan fyfyrwyr ar ddiwrnod cyntaf y cwrs (yn ôl dyddiad y tymor a chylchfa amser y cwrs)
  • Yn y Llyfr Graddau, mae’r aseiniad ar amser os yw wedi’i gyflwyno erbyn Medi 19 am 11:59 pm (yn ôl cylchfa amser y cwrs)
  • Yn y Llyfr Graddau, mae’r aseiniad yn cael ei farcio’n hwyr os yw wedi’i gyflwyno rhwng Medi 20 am 12:00:00 am a Medi 22 am 11:59:59 (yn ôl cylchfa amser y cwrs)
  • Mae Canvas yn cau’r aseiniad i bob cyflwyniad gan fyfyrwyr ar Fedi 23 am 12:00 am (yn ôl cylchfa amser y cwrs)

Nodyn: Yn Cwisiau, mae’r nodwedd cyflwyno awtomatig wedi’i chysylltu â’r dyddiad Tan, sy’n gallu effeithio ar gyflwyniadau myfyrwyr. I gael rhagor o fanylion, ewch i’r wers dyddiadau argaeledd cwis.

Cyfyngu ar Ystod Dyddiadau Cyflwyniad

Cyfyngu ar Ystod Dyddiadau Cyflwyniad

Os ydych chi eisiau gadael i fyfyrwyr gyflwyno aseiniad o fewn ystod dyddiadau penodol, gosodwch ddyddiadau argaeledd ar gyfer yr aseiniad.

Er enghraifft, os yw dyddiad erbyn yr aseiniad ar Fedi 19 am 11:59 pm, ond mai dim ond rhwng Medi 9 a Medi 22 rydych chi eisiau i fyfyrwyr allu cyflwyno’r aseiniad, a’ch bod chi eisiau caniatáu cyflwyniadau hwyr am 3 diwrnod, gosodwch y dyddiad Ar Gael O i Fedi 9 am 12 am, a’r dyddiad Tan i Fedi 22 am 11:59 pm.

Mae Canvas yn gweld ac yn sgorio’r aseiniad fel a ganlyn:

  • Mae Canvas yn agor yr aseiniad i bob cyflwyniad gan fyfyrwyr ar Fedi 9 am 12 am (yn ôl cylchfa amser y cwrs)
  • Yn y Llyfr Graddau, mae’r aseiniad ar amser os yw wedi’i gyflwyno erbyn Medi 19 am 11:59 pm (yn ôl cylchfa amser y cwrs)
  • Yn y Llyfr Graddau, mae’r aseiniad yn cael ei farcio’n hwyr os yw wedi’i gyflwyno rhwng Medi 20 am 12:00:00 am a Medi 22 am 11:59:59 (yn ôl cylchfa amser y cwrs)
  • Mae Canvas yn cau’r aseiniad i bob cyflwyniad gan fyfyrwyr ar Fedi 23 am 12:00 am (yn ôl cylchfa amser y cwrs)

Diweddaru Dyddiadau Erbyn a Dyddiadau Argaeledd mewn Swp

Efallai y byddwch chi’n gallu diweddaru dyddiadau erbyn a dyddiadau ar gael nifer o aseiniadau ar yr un pryd.

Os nad oes amser wedi’i osod, bydd yr amser erbyn hwn yn cael ei osod i 11:59:59 pm yn ddiofyn ar gyfer cylchfa amser y cwrs a bydd yr aseiniad yn cael ei farcio’n hwyr am 12:00:00 am. Er enghraifft, os byddwch chi’n gosod y dyddiad erbyn i Fedi 19 am 11:59 pm, bydd yr aseiniad yn cael ei farcio’n hwyr os bydd yn cael ei gyflwyno am neu ar ôl Medi 20 am 12:00:00.