Sut ydw i’n rhoi trafodaeth wedi’i graddio i un myfyriwr?

Wrth greu neu olygu trafodaeth wedi’i graddio, gallwch roi trafodaeth wedi’i graddio i fyfyriwr penodol. Mae’r swyddogaeth dyddiadau ar gael yn dal ar gael ar gyfer pob trafodaeth wedi’i graddio.

Dim ond y myfyrwyr sydd wedi’u nodi ym manylion y drafodaeth sy’n cael gweld y drafodaeth wedi’i graddio.

Wrth ddefnyddio aseiniadau wedi’u gwahaniaethu gyda’r Llyfr Graddau, mae’r drafodaeth wedi’i graddio yn ymddangos fel colofn i’r holl fyfyrwyr, ond mae celloedd gradd yn llwyd ar gyfer myfyrwyr sydd heb eu cynnwys yn y drafodaeth. Does dim modd rhoi graddau i fyfyrwyr sydd heb eu cynnwys yn y drafodaeth wedi’i graddio, a dydy trafodaethau wedi’u graddio sydd heb eu rhoi i fyfyriwr ddim yn cael eu cynnwys mewn graddau cyffredinol.

Pan fydd Mwy nag un Cyfnod Graddio ar waith mewn cwrs, mae’r aseiniadau hefyd yn cadw at gyfnodau graddio sydd wedi dod i ben.

Nodyn: Os yw eich cwrs yn defnyddio Llwybrau Meistroli, does dim rhaid i chi roi trafodaethau wedi’u graddio i fyfyrwyr unigol eich hun. Gallwch ddysgu sut i roi aseiniadau i Llwybrau Meistroli.

Agor Trafodaethau

Agor Trafodaethau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Trafodaethau (Discussions).

Ychwanegu Trafodaeth

Cliciwch y botwm Ychwanegu Trafodaeth (Add Discussion).

Rhoi Manylion Trafodaeth

Rhoi Manylion Trafodaeth

Rhowch deitl pwnc [1] a manylion trafodaeth [2].

Gosod Trafodaeth wedi’i Graddio

Gosod Trafodaeth wedi’i Graddio

Cliciwch y blwch ticio Wedi Graddio (Graded).

Rhoi Manylion Graddio

Rhoi Manylion Graddio

Rhowch y nifer o bwyntiau sydd ar gael [1] Dewiswch y Math o Raddio (Grading Type) [2] a Grŵp Aseiniadau (Assignment Group) [3], a neilltuo Adolygiadau gan Gyd-Fyfyrwyr (Peer Reviews) [4], os oes rhai.

Rhoi i Fyfyriwr

Rhoi i Fyfyriwr

Yn ddiofyn, bydd Canvas yn gosod eich aseiniad i bawb ar eich cwrs. I greu’r aseiniad ar gyfer myfyriwr penodol, cliciwch yr eicon tynnu Pawb (Everyone) [1], yna dechreuwch deipio enw myfyriwr [2]. Mae meysydd chwilio’n ddeinamig, a gallwch chwilio am fyfyrwyr yn ôl eu henw cyntaf neu gyfenw. Pan fydd yr enw llawn yn ymddangos, cliciwch yr enw. Does dim modd sgrolio drwy restrau.

Gallwch gynnwys mwy nag un myfyriwr yn y maes I (To), cyn belled â bod y myfyrwyr yn cael yr un dyddiadau erbyn a dyddiadau ar gael.

Golygu Dyddiadau Erbyn a Dyddiadau Ar Gael

Golygu Dyddiadau Erbyn a Dyddiadau Ar Gael

Yn y meysydd dyddiad, rhowch y dyddiad(au) rydych chi’n eu ffafrio gyda’r opsiynau canlynol:

  • Erbyn (Due) [1]: Gosodwch ddyddiad ac amser cyflwyno’r drafodaeth. Bydd y dyddiad erbyn wedi’i lenwi’n barod i chi os ydych chi wedi creu cragen aseiniad, ond gallwch ei newid os oes angen.
  • Ar gael o [2]: Gosodwch y dyddiad a’r amser pan fydd y drafodaeth wedi’i graddio ar gael.
  • Tan [3]: Gosodwch y dyddiad a’r amser pan na fydd y drafodaeth wedi’i graddio ar gael bellach.

Nodyn: O dan y meysydd Dyddiad Erbyn (Due Date) a Dyddiad Ar Gael (Availability date), bydd Canvas yn dangos dyddiad ac amser y gylchfa amser yn ôl y cyd-destun. Os ydych chi’n rheoli cyrsiau mewn cylchfa amser wahanol i’ch cylchfa amser leol ac yn creu neu’n golygu dyddiad erbyn trafodaeth wedi’i graddio, yna mae amser y cwrs a’r amser lleol yn cael eu dangos er gwybodaeth.

Ychwanegu Dyddiadau Ychwanegol

Ychwanegu Dyddiadau Ychwanegol

I ychwanegu myfyriwr arall gyda dyddiad erbyn a dyddiad ar gael gwahanol, cliciwch y botwm Ychwanegu (Add).

Tynnu Dyddiadau

Tynnu Dyddiadau

Hefyd, gallwch ddileu dyddiadau ychwanegol drwy glicio’r eicon tynnu wrth y dyddiad perthnasol.

Cadw a Chyhoeddi

Cadw a Chyhoeddi

Os ydych chi’n barod i gyhoeddi eich trafodaeth, cliciwch y botwm Cadw a Chyhoeddi (Save & Publish) [1]. Os ydych chi am greu drafft o’ch trafodaeth a’i chyhoeddi rywbryd eto, cliciwch y botwm Cadw (Save) [2].

Gweld Rhybudd Dyddiad Erbyn

Gweld Rhybudd Dyddiad Erbyn

Os nad ydych chi’n ychwanegu adrannau cwrs at yr aseiniad, byddwch yn gweld neges rhybudd yn gofyn a ydych chi am ychwanegu’r adrannau hynny.

Os nad ydych chi am ychwanegu unrhyw adrannau at yr aseiniad, yna gallwch glicio’r botwm Bwrw ymlaen (Continue) [1] neu cliciwch y botwm Yn ôl (Go Back) [2] i fynd yn ôl ac ychwanegu adrannau.

Nodyn: Ni fydd y neges rhybudd hon yn ymddangos os yw Pawb (Everyone) neu bob adran o’r cwrs wedi’u hychwanegu at yr aseiniad.

Gweld Gwall Dyddiad

Gweld Gwall Dyddiad

Os wnewch chi gyflwyno llinyn annilys o ddyddiadau erbyn a cheisio cadw’r drafodaeth wedi’i graddio, yna bydd Canvas yn cynhyrchu hysbysiad gwall. Mae cofnodion annilys o’r fath yn cynnwys peidio datgloi’r drafodaeth mewn pryd, peidio gosod y dyddiad erbyn o fewn yr ystod o ddyddiadau sydd ar gael, neu osod dyddiad sydd y tu allan i ddyddiadau’r cwrs neu’r tymor.

Cywirwch y dyddiad ac yna diweddarwch y drafodaeth eto.

Nodiadau:

  • Os nad yw’r cwrs yn cynnwys dyddiadau dechrau a gorffen penodol, yna bydd Canvas yn dilysu’r drafodaeth wedi’i graddio yn erbyn y dyddiad tymor sydd wedi cael ei osod ar gyfer y cwrs.
  • Os yw eich cwrs yn defnyddio Mwy nag Un Cyfnod Graddio, yna mae’r maes Rhoi (Assign) yn dilysu’r dyddiad erbyn yn erbyn y cyfnod graddio sydd wedi dod i ben, ac mae gofyn i ddyddiad erbyn y drafodaeth fod ar ôl dyddiad y cyfnod graddio sydd wedi dod i ben.

Gweld Dyddiadau Trafodaeth

Gweld Dyddiadau Trafodaeth

I weld defnyddwyr a dyddiadau erbyn y drafodaeth, cliciwch y ddolen Dangos Dyddiadau Erbyn (Show Due Dates).

Gweld Dyddiadau Rhoi

Gallwch weld y dyddiadau sydd wedi’u rhoi i’r drafodaeth wedi’i graddio.

Gweld Dyddiadau yn Ailddylunio Trafodaethau

Gweld Dyddiadau yn Ailddylunio Trafodaethau

I weld argaeledd a dyddiadau erbyn ar gyfer trafodaeth yn Ailddylunio Trafodaethau, cliciwch y ddolen Dangos Dyddiadau Erbyn (Show Due Dates).

Gweld Dyddiadau Rhoi

Gallwch weld y dyddiadau sydd wedi’u rhoi i’r drafodaeth wedi’i graddio.

Gweld Tudalen Aseiniadau

Ar y Dudalen Aseiniadau (Assignments Page), mae’r drafodaeth wedi’i graddio yn dangos bod mwy nag un defnyddiwr a dyddiad wedi’u gosod ar y drafodaeth. Gallwch hofran dros y testun i weld pa ddyddiadau sydd ar gael neu beth yw’r dyddiadau erbyn.