Sut ydw i’n ychwanegu cynnwys cwrs fel eitemau modiwl?

Gallwch ychwanegu eitemau cynnwys newydd neu bresennol yn Canvas at fodiwl. Gallwch hefyd ychwanegu eitem at fwy nag un modiwl, neu fwy nag un fersiwn o eitem at un modiwl.

Pan fyddwch chi’n ychwanegu eitemau at Fodiwl, cofiwch fod statws y Modiwl yn diystyru cyflwr yr eitemau modiwl unigol. Efallai y byddwch am ystyried gadael pob eitem Modiwl yn y cyflwr heb ei gyhoeddi nes eich bod chi’n barod i gyhoeddi’r Modiwl cyfan. Dysgwch fwy am gyhoeddi neu ddad-gyhoeddi modiwl.

Nodiadau:

  • Bydd Canvas yn derbyn y rhan fwyaf o ffeiliau cyfryngau i’w llwytho i fyny. Ond, nid oes modd chwarae pob ffeil cyfryngau o fewn Canvas.
  • Mae ffeiliau sydd wedi’u llwytho i fyny yn cael yn cael eu cyhoeddi’n awtomatig a’u dangos yn Ffeiliau’r Cwrs. Wrth ychwanegu math o ffeil sydd wedi cael ei chyfyngu, cofiwch fod ffeiliau sydd wedi cael eu cyfyngu yn gweithredu fel ffeiliau sydd wedi cael eu cyhoeddi a’i bod yn bosib y bydd myfyrwyr yn gallu eu gweld. Gallwch ddysgu mwy am gyfyngu ar ffeiliau yn Canvas.
  • Mae amryw o eitemau modiwl yn gallu cael effaith ar berfformiad. Mae modiwlau yn gallu delio â hyd at 100 eitem modiwl ar dudalen cynnydd myfyrwyr.
  • Os yw eich cwrs yn gofyn i chi osod hawliau defnyddio ar eich ffeil, yna bydd rhaid i chi osod yr hawliau defnyddio cyn y gallwch chi gyhoeddi’r ffeil mewn modiwl.

Agor Modiwlau

Agor Modiwlau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Modiwlau (Modules).

Ychwanegu Eitem Modiwl

Ychwanegu Eitem Modiwl

I ychwanegu eitem, cliciwch yr eicon Ychwanegu Eitem (Add Item) [1] neu lusgo a gollwch i ychwanegu ffeiliau at fodiwl gwag [2].

Ychwanegu Eitem at Fodiwl

Ychwanegu Eitem at Fodiwl

Cliciwch y gwymplen Ychwanegu (Add) a dewiswch un o’r mathau canlynol o eitem:

 Nodiadau:

  • Bydd Canvas yn derbyn y rhan fwyaf o ffeiliau cyfryngau i’w llwytho i fyny. Ond, nid oes modd chwarae pob ffeil cyfryngau o fewn Canvas.
  • Wrth ychwanegu cynnwys gan ddefnyddio’r gwymplen ychwanegu mae’n llwytho’r 200 aseiniad, 400 cwis, 200 trafodaeth a 100 adnodd allanol cyntaf.

Ychwanegu Eitem Newydd

Ychwanegu Eitem Newydd

Os ydych chi am ychwanegu eitem newydd, cliciwch y ddolen [Newydd (New)] [1] a theipiwch enw yn y maes enw [2].

Yn dibynnu ar y math o eitem, wrth ychwanegu cynnwys newydd efallai y bydd gofyn i chi lenwi meysydd ychwanegol.

Llwytho Ffeil i Fyny

Llwytho Ffeil i Fyny

Os ydych chi’n ychwanegu ffeil at fodiwl, gallwch chi lwytho ffeil newydd i fyny drwy glicio’r ddolen Creu Ffeil(iau) (Create File(s)) [1]. Mae ffeiliau sydd wedi’u llwytho i fyny yn cael yn cael eu cyhoeddi’n awtomatig a’u dangos yn Ffeiliau’r Cwrs.

I ddewis ffeil o’ch cyfrifiadur, cliciwch y botwm Dewis Ffeil(iau) (Choose File(s)) [2]. Os yw hyn wedi’i alluogi gan eich sefydliad, efallai y byddwch chi’n gallu dewis mwy nag un ffeil.

I ddewis ffolder gyrchfan ar gyfer eich ffeil sydd wedi’i llwytho i fyny, dewiswch opsiwn yng nghwymplen y Ffolder [3].

Os yw ffeil sydd wedi’i llwytho i fyny yn ddyblygiad o ffeil sy’n bodoli’n barod, bydd Canvas yn dangos hysbysiad yn gofyn a ddylai’r ffeil gael ei disodli, ei hailenwi, neu ei diystyru.

Ychwanegu Eitem sy’n bodoli’n barod

Ychwanegu Eitem sy’n bodoli’n barod

Os ydych chi wedi creu'r eitem rydych chi am ei hychwanegu’n barod, yna cliciwch enw’r eitem. I ddewis mwy nag un eitem, pwyswch Shift a dewis yr eitem gyntaf ac olaf yn y rhestr i’w hychwanegu.

Mewnoli Eitem

Mewnoli Eitem

Dewiswch y gwymplen Mewnoli (Indentation) i fewnoli’r eitem yn y modiwl.

Ychwanegu Eitem

Ychwanegu Eitem

Cliciwch y botwm Ychwanegu Eitem (Add Item).

Gweld Eitem Modiwl

Gweld Eitem Modiwl

Gweld yr eitem modiwl sydd wedi cael ei dewis.