Sut ydw i’n cael mynediad at y Golygydd Cynnwys Cyfoethog fel addysgwr?

Gallwch chi gael mynediad at y Golygydd Cynnwys Cyfoethog o Gyhoeddiadau, Aseiniadau, Trafodaethau, Tudalennau, Cwisiau Clasurol, Cwisiau Newydd, a’r Maes Llafur. Mae’r wers hon yn egluro sut i gael mynediad at y Golygydd Cynnwys Cyfoethog o bob un o’r ardaloedd hyn.

Dysgu mwy am y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.

Cyhoeddiadau

Cyhoeddiadau

Yn yr ardal Cyhoeddiadau, gallwch chi gael mynediad at y Golygydd Cynnwys Cyfoethog drwy greu neu olygu cyhoeddiad.

I greu cyhoeddiad, cliciwch y botwm Ychwanegu Cyhoeddiad (Add Announcement) [1].

I olygu cyhoeddiad, cliciwch deitl y cyhoeddiad [2] a chlicio’r botwm Golygu (Edit) [3].

Aseiniadau

Yn yr ardal Aseiniadau, gallwch chi gael mynediad at y Golygydd Cynnwys Cyfoethog drwy greu neu olygu aseiniad.

I greu aseiniad, cliciwch y botwm Ychwanegu Aseiniad (Add Assignment) [1].

I olygu aseiniad, cliciwch eicon Opsiynau’r aseiniad [2] a chlicio’r opsiwn Golygu (Edit) [3].

Trafodaethau

Yn yr ardal Trafodaethau, gallwch chi gael mynediad at y Golygydd Cynnwys Cyfoethog drwy greu neu olygu trafodaeth.

I greu trafodaeth, cliciwch y botwm Ychwanegu Trafodaeth (Add Discussion) [1].

I olygu trafodaeth, cliciwch deitl y drafodaeth [2] a chlicio’r botwm Golygu (Edit) [3].

Tudalennau

Yn yr ardal Tudalennau, gallwch chi gael mynediad at y Golygydd Cynnwys Cyfoethog drwy greu neu olygu tudalen. I weld pob tudalen mewn cwrs, cliciwch y botwm Gweld Pob Tudalen (View All Pages) [1].

I greu tudalen newydd, cliciwch y botwm Ychwanegu Tudalen (Add Page) [2]. I olygu tudalen, cliciwch eicon Opsiynau’r dudalen [3] a chlicio’r opsiwn Golygu (Edit) [4].

Cwisiau Clasurol

Disgrifiad o’r Cwis

Disgrifiad o’r Cwis

Mewn Cwisiau Clasurol, gallwch chi ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog i olygu’r disgrifiad o’r cwis neu gwestiynau’r cwis.

Gallwch chi gael mynediad at y Golygydd Cynnwys Cyfoethog i olygu disgrifiad o’r cwis wrth ychwanegu cwis newydd neu wrth olygu cwis.

I ychwanegu cwis newydd, cliciwch y botwm Ychwanegu Cwis (Add Quiz) [1]. I olygu cwis, cliciwch eicon Opsiynau’r cwis [2] a dewiswch yr opsiwn Golygu (Edit) [3].

Cwestiynau'r Cwis

Cwestiynau'r Cwis

I ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog i olygu cwestiwn, cliciwch y tab Cwestiynau (Questions) [1]. Yna cliciwch yr eicon Golygu (Edit) ar gyfer y cwestiwn rydych chi eisiau ei olygu [2].

Cwisiau Newydd

Creu Cwis

Mewn Cwisiau Newydd, gallwch chi ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog i olygu’r disgrifiad o’r cwis neu gwestiynau’r cwis.

Gallwch chi gael mynediad at y Golygydd Cynnwys Cyfoethog i olygu disgrifiad o’r cwis wrth ychwanegu cwis newydd neu wrth olygu cwis.

I ychwanegu cwis newydd, cliciwch y botwm Ychwanegu Cwis (Add Quiz) [1]. I olygu cwis, cliciwch eicon Opsiynau’r cwis [2] a dewiswch yr opsiwn Adeiladu (Build) [3].

Cwestiwn Cwis

I ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog i olygu cwestiwn, cliciwch yr eicon Golygu (Edit) ar gyfer y cwestiwn rydych chi am ei olygu.

Maes Llafur

Yn y Maes Llafur, gallwch chi ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog i olygu maes llafur eich cwrs. I olygu’r maes llafur, cliciwch y botwm Golygu (Edit).

Gweld y Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Gweld y Golygydd Cynnwys Cyfoethog