Sut ydw i’n creu aseiniad adolygu gan gyd-fyfyrwyr?

Wrth greu aseiniad, gallwch ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr adolygu gwaith myfyriwr arall. Rhagor o wybodaeth am aseiniadau adolygu gan gyd-fyfyrwyr.

Ar gyfer adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr, gallwch neilltuo adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr eich hun neu ddewis bod Canvas yn neilltuo adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr yn awtomatig i chi. Hefyd, gallwch ddewis caniatáu i fyfyrwyr weld enwau'r myfyrwyr eraill mewn adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr neu eu gwneud yn ddienw. Pan fydd adolygiadau dienw gan gyd-fyfyrwyr yn cael eu galluogi, bydd addysgwyr a chynorthwywyr dysgu’n dal yn gallu gweld enwau’r myfyrwyr sy’n adolygu yn SpeedGrader ac ar dudalen cyflwyno’r myfyriwr. Ond, os yw graddio dienw’n cael ei alluogi yn SpeedGrader, bydd enwau'r ddau fyfyriwr yn cael eu cuddio yn SpeedGrader ond ddim ar dudalen cyflwyno’r myfyriwr.

I gwblhau'r adolygiad gan gyd-fyfyrwyr, mae gofyn i fyfyrwyr roi o leiaf un sylw. Os ydych chi’n cynnwys cyfarwyddyd sgorio, dim ond cwblhau’r cyfarwyddyd sgorio sydd angen iddyn nhw ei wneud.

Nodiadau:

  • I ddysgu sut mae dyddiadau cau aseiniadau ac adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr yn ymddangos ar restr myfyriwr o bethau i’w gwneud, edrychwch ar y ddogfen adnoddau Awgrymiadau Adolygiadau gan Gyd-fyfyrwyr.
  • Does dim modd defnyddio adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr gydag aseiniadau Adnodd Allanol.
  • Mae modd i fyfyrwyr weld sylwadau adolygiad gan gyd-fyfyrwyr os yw graddau aseiniad wedi’u cuddio. Ond, does dim modd i fyfyrwyr sylwadau addysgwr nes bod graddau aseiniad wedi’u postio.
  • Does dim modd i addysgwyr olygu neu ddileu sylwadau mewn adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr.

Agor Aseiniadau

Agor Aseiniadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Aseiniadau (Assignments).

Ychwanegu Aseiniad

Ychwanegu Aseiniad

Cliciwch y botwm Ychwanegu Aseiniad (Add Assignment).

Ychwanegu Manylion Aseiniad

Dewis Math o Gyflwyniad

Dewis Math o Gyflwyniad

Yn y gwymplen Math o gyflwyniad (Submission Type) [1], dewiswch y math o gyflwyniad o’ch dewis [2].

Nodyn: Dydy math o gyflwyniad yr Adnodd Allanol ddim yn gallu delio ag aseiniadau adolygu gan gyd-fyfyrwyr.

Dewis Opsiynau Cofnod Ar-lein

Dewis Opsiynau Cofnod Ar-lein

Ticiwch y mathau o gofnodion ar-lein a ganiateir yn yr aseiniad.

Ychwanegu Aseiniad Grŵp

Ychwanegu Aseiniad Grŵp

Mae modd defnyddio adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr gydag aseiniadau grŵp. Os ydych chi am greu aseiniad grŵp, ticiwch y blwch Mae hwn yn Aseiniad Grŵp (This is a Group Assignment).

Mynnu Adolygiadau gan Gyd-fyfyrwyr

Mynnu Adolygiadau gan Gyd-fyfyrwyr

Cliciwch y blwch ticio Mynnu Adolygiadau gan Gyd-fyfyrwyr (Require Peer Reviews) [1]. Nid yw adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr yn cael eu neilltuo’n awtomatig yn ddiofyn [2].

Os ydych chi am neilltuo adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr yn awtomatig, dewiswch y botwm radio Neilltuo’n awtomatig (Automatically Assign) [3].

Nodyn: Rhaid i unigolyn neilltuo adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr ar gyfer mathau aseiniad Ar Bapur (On Paper) a Dim Cyflwyniad (No Submission).

Neilltuo Adolygiadau gan Gyd-fyfyrwyr yn Awtomatig

Neilltuo Adolygiadau gan Gyd-fyfyrwyr yn Awtomatig

Os ydych chi’n neilltuo adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr yn awtomatig, bydd y ddewislen yn dangos opsiynau ychwanegol. Yn y maes Adolygiadau gan bob Defnyddiwr (Reviews Per User) [1], rhowch nifer yr adolygiadau y bydd gofyn i bob myfyriwr eu cwblhau.

Yn y maes Neilltuo Adolygiadau (Assign Reviews) [2], defnyddiwch yr eicon calendr i ddewis dyddiad neu rhowch y dyddiad eich hun ar gyfer neilltuo adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr. Os caiff hyn ei adael yn wag, bydd Canvas yn defnyddio dyddiad erbyn yr aseiniad.

Neilltuo Adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr o fewn y grŵp - Aseiniad Grŵp

Neilltuo Adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr o fewn y grŵp - Aseiniad Grŵp

Mewn aseiniadau grŵp, gallwch ddewis hefyd i ganiatáu adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr o fewn y grŵp.

Mewn adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr, mae angen i fyfyriwr adolygu cyflwyniad unigol gan fyfyriwr arall. Ond, mae cyflwyniadau aseiniad grŵp yn cael eu gwneud gan un aelod o'r grŵp ar ran y grŵp i gyd, ac mae gan bob aelod o'r grŵp yr un cyflwyniad.

Dydy'r blwch ticio ar gyfer Caniatáu adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr o fewn y grŵp (Allow intra-group peer reviews) ddim wedi’i ddewis yn ddiofyn, ac mae hyn yn golygu y bydd Canvas yn hidlo aelodau o’r un grŵp wrth neilltuo'r adolygiadau’n awtomatig.

Er mwyn i Canvas neilltuo adolygiad gan gyd-fyfyrwyr yn i fyfyriwr yng ngrŵp y myfyriwr ei hun, ticiwch y blwch Caniatáu adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr o fewn y grŵp (Allow intra-group peer review).

Neilltuo Adolygiadau dienw gan Gyd-Fyfyrwyr

Neilltuo Adolygiadau dienw gan Gyd-Fyfyrwyr

Os ydych chi am i adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr fod yn ddienw, ticiwch y blwch Adolygiadau gan Gyd-Fyfyrwyr yn ymddangos yn Ddienw (Peer Reviews Appear Anonymously).

Nodyn: Dydy Canvas DocViewer ddim yn gallu delio â sylwadau dienw, felly does dim modd ei ddefnyddio ar gyfer adborth ag anodiadau ar aseiniadau sydd ag adolygiadau dienw gan gyd-fyfyrwyr.

Cadw a Chyhoeddi Aseiniad

Cadw a Chyhoeddi Aseiniad

Os ydych chi’n barod i gyhoeddi eich aseiniad, cliciwch y botwm Cadw a Chyhoeddi (Save & Publish) [1]. Os ydych chi am greu drafft o’ch aseiniad a’i gyhoeddi rywbryd eto, cliciwch y botwm Cadw (Save) [2].

Cyhoeddi Aseiniad

Pan fydd eich aseiniad yn cael ei gadw ar ffurf drafft, gallwch fynd yn ôl i’r dudalen a'i gyhoeddi unrhyw bryd drwy glicio’r botwm Cyhoeddi (Publish).

Gweld Aseiniad wedi’i Gyhoeddi

Gweld Aseiniad wedi’i Gyhoeddi

Gweld aseiniad wedi'i gyhoeddi.

Gallwch hefyd atodi cyfarwyddyd sgorio i’r aseiniad i fyfyrwyr ei lenwi wrth gwblhau eu hadolygiadau. I ychwanegu cyfarwyddiad sgorio at yr aseiniad, cliciwch y botwm Ychwanegu Cyfarwyddyd Sgorio (Add Rubric).