Gall Canvas lwytho ffeiliau delwedd, fideo a sain penodol i fyny fel cynnwys defnyddiwr.
Pan fyddwch chi'n llwytho ffeiliau sain a chyfryngau i fyny gan ddefnyddio'r adnodd cyfryngau yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, mae Canvas yn newid ffeiliau hyd at 500 MB. Os bydd ffeil yn fwy na'r cyfyngiad o 500 MB, gallwch letya'r ffeil trwy ffynhonnell allanol fel YouTube a'i phlannu gan ddefnyddio'r Golygydd Cynnwys Cyfoethog. I ddysgu mwy am yr opsiynau sydd ar gael i ddefnyddio ffeiliau cyfryngau yn Canvas, edrychwch ar y PDF Cymharu Cyfryngau Canvas.
Pan fyddwch chi'n llwytho ffeil i fyny i'ch cwrs, grŵp, neu ffeiliau defnyddiwr, bydd Canvas yn newid y ffeil i fformat sy'n gydnaws â'ch porwr. Fodd bynnag, dydy Canvas ddim yn gallu delio â llwytho ffeiliau i fyny sy’n fwy na 5 GB. Mae chwarae cyfryngau yn cael ei benderfynu yn ôl y porwr, felly os nad oes modd i chi weld y ffeil, mae'n bosib y bydd angen i chi geisio gweld y ffeil mewn porwr arall.
Mae gan ffeiliau Canfas gyfyngiadau cwota ar gyfer pob maes defnyddiwr: ffeiliau (personol) defnyddiwr, ffeiliau cwrs, a ffeiliau grŵp. Mae ffeiliau sy'n cael eu llwytho i fyny yn uniongyrchol i'ch ffeiliau defnyddiwr neu ffeiliau grŵp yn cyfrif tuag at y cwotâu penodol, heblaw am lwytho llun proffil i fyny. Mae pob ffeil sy'n cael ei llwytho i fyny i gwrs yn cyfrif tuag at gwota'r cwrs. I fyfyrwyr, bydd unrhyw atodiadau sy’n cael eu hychwanegu fel rhan o’r broses o gyflwyno'r aseiniad wedi'i raddio yn cael eu llwytho i fyny i ffeiliau defnyddiwr ond fyddan nhw ddim yn cyfrif tuag at y cwota defnyddiwr.
Nodyn: Os byddwch chi'n llwytho ffeil i fyny na all chwaraewr cyfryngau Canvas ddelio â hi, gallwch drefnu bod defnyddwyr yn llwytho'r ffeil i lawr er mwyn ei gweld tu allan i Canvas.