Sut ydw i’n defnyddio Ffeiliau?
Fel addysgwr, mae’r adran Ffeiliau (Files) yn gadael i chi storio ffeiliau ac aseiniadau o fewn Canvas. Gallwch lwytho un ffeil neu fwy nag un ffeil i fyny, gweld manylion am eich ffeiliau, gweld rhagolwg o ffeiliau, cyhoeddi a dad-gyhoeddi ffeiliau, gosod hawliau defnyddio, a chyfyngu ar fynediad at ffeiliau. Oherwydd cynllun yr adran Ffeiliau (Files), mae’n gallu addasu i raddfa'r porwr. Mae ffenestr crwydro’r ffolder, ffeiliau, a hyd yn oed enwau ffeil yn addasu i led ffenestr y porwr.
Mae gennych chi fynediad at ffeiliau (dogfennau, delweddau, cyfryngau, ac ati) mewn tair ardal nodwedd wahanol:
- Ffeiliau defnyddiwr, yn eich proffil defnyddiwr
- Ffeiliau cwrs, ym mhob cwrs rydych chi wedi ymrestru arnyn nhw
- Ffeiliau grŵp, ym mhob grŵp rydych chi'n aelod ohono.
Gweld Ffeiliau
Mae’r swyddogaethau sylfaenol o fewn yr adran Ffeiliau (Files) yr un fath yn lleoliad pob ffeil, ond gall rhai nodweddion fod yn wahanol yn dibynnu ar yr ardal nodwedd.
Er hwylustod mae’r panel ar y chwith [1] yn dangos pob ffolder. Bydd rhai ffolderi wedi’u lleoli o fewn ffolderi eraill. Cliciwch y saeth drws nesaf i enw’r ffolder i ehangu pob ffolder.
Cliciwch enw ffolder. Mae holl gynnwys y ffolder rydych chi'n edrych arni i’w weld yn y panel ar y dde [2]. Gallwch hefyd glicio enw ffolderi yn y panel ar y dde i weld cynnwys ffolder.
Crwydro Penawdau Ffeiliau
Ar gyfer pob ffeil, gallwch weld enw'r ffeil [1], y dyddiad y cafodd y ffeil ei chreu [2], y dyddiad y cafodd y ffeil ei haddasu [3], ac enw’r person a addasodd y ffeil (os cafodd ei haddasu gan ddefnyddiwr arall) [4], a maint y ffeil [5].
Mae’n bosib y bydd cyrsiau a grwpiau yn dangos colofn ar gyfer hawliau defnyddio. Os ar waith, bydd y golofn yn dangos hawl defnyddiwr (hawlfraint) y ffeil [6].
Gallwch hefyd weld statws cyhoeddi [7] pob ffeil.
Mae ffeiliau’n cael eu trefnu yn ôl yr wyddor. I drefnu ffeiliau, cliciwch enw pennawd unrhyw golofn.
Rheoli Ffeiliau
Yn dibynnu ar adran y ffeil, mae’n bosib y bydd ffeiliau’n cynnwys nifer o opsiynau i reoli ffeiliau:
Chwilio am ffeiliau (Search for files) [1]. Mae modd chwilio’r adran ffeiliau’n llawn gydag enw ffeil.
Ychwanegu ffolder [2]. Ychwanegwch ffolder newydd at yr adran Ffeiliau er mwyn storio ffeiliau. Mae modd i ffolderi gynnwys ffolderi eraill hefyd.
Llwytho ffeil i fyny [3]. Llwythwch ffeil i fyny i Ffeiliau.
Ar gyfer cyrsiau a grwpiau sy’n defnyddio hawliau defnyddio, gosodwch yr hawl defnyddio (hawlfraint) ar gyfer ffeil [4]. Rhaid i chi osod hawl defnyddiwr ar gyfer ffeil cyn y gellir ei chyhoeddi. Mae eicon rhybudd i’w weld ar ffeiliau sydd ddim yn cynnwys hawliau defnyddio.
Newid cyflwr y ffeil (Change the state of the file) [5]. Mae modd cyhoeddi, dad-gyhoeddi neu gynnwys statws cyfyngedig. ar ffeiliau.
Rheoli Ffeiliau wedi’u dewis
I ddewis ffeil, cliciwch enw’r ffeil. Gallwch hefyd ddewis mwy nag un ffeil ar y tro drwy ddal y fysell command (MAC) neu’r fysell control (PC).
Ar ôl i ffeil gael ei dewis, bydd yr adran Ffeiliau yn dangos y bar offer ffeiliau ar frig y ffenestr. Yn dibynnu ar adran y ffeiliau, mae’n bosib y bydd y bar offer yn cynnwys nifer o opsiynau i reoli ffeil(iau) sydd wedi’u dewis:
- Gweld rhagolwg o’r ffeil [1]
- Rheoli ffeil i gyfyngu ar fynediad [2]
- Llwytho’r ffeil i lawr [3] (wrth ddewis mwy nag un ffeil, mae opsiwn yn ymddangos i lwytho’r ffeil i lawr fel ffeil zip)
- Symud y ffeil [4]
- Rheoli Hawliau Defnyddio ar gyfer y ffeil [5]
- Dileu’r ffeil [6]
Gallwch hefyd reoli rhai neu’r holl opsiynau ar gyfer ffeil benodol o fewn dewislen Opsiynau (Options) y ffeil [7].
Gweld Cwrs Glasbrint
Os yw eich cwrs yn cynnwys eiconau Glasbrint (Blueprint), yna mae eich cwrs yn gysylltiedig â chwrs glasbrint. Mae Cyrsiau Glasbrint yn gyrsiau sy’n cael eu rheoli fel templed a gallant gynnwys gwrthrychau wedi’u cloi ac wedi’u rheoli gan weinyddwr, dylunydd cyrsiau, neu addysgwr arall yn Canvas.
Bydd y tab Manylion Cwrs yng Ngosodiadau’r Cwrs yn rhoi gwybod i chi os yw eich cwrs yn gwrs glasbrint. Fel arfer, ni fydd eich cwrs yn gwrs glasbrint a dim ond cynnwys wedi’i ddatgloi fyddwch chi’n gallu ei reoli yn eich cwrs. Os yw eich cwrs yn gwrs glasbrint, gallwch gloi a chysoni cynnwys cwrs â chyrsiau cysylltiedig.