Sut ydw i’n cyfyngu ffeiliau a ffolderi?
Mae modd i ddefnyddwyr olygu hawliau ar gyfer ffeiliau, gan gynnwys gosod cyflwr y ffeil (wedi cael ei chyhoeddi neu heb gael ei chyhoeddi), cyfyngu ar fynediad at ffeiliau i fyfyrwyr sydd â’r ddolen, neu drefnu dyddiadau ar gael ar gyfer y ffeiliau.
Pan fydd y gosodiad Dim ond ar gael gyda dolen (Only available with link option) wedi’i osod, dim ond os ydy’r myfyriwr wedi derbyn y ddolen i’r ffeil y mae modd gweld y ffeil. Dydy’r opsiwn hwn ddim ond yn cuddio ffeiliau rhag myfyrwyr yn Ffeiliau’r Cwrs. Dydy’r swyddogaeth hon ddim yn ddilys y tu allan i’r nodwedd Ffeiliau (Files). Er enghraifft, os oes ffeil gyda chyfyngiad gweld i fyfyrwyr yn cael ei hychwanegu at Fodiwl neu Aseiniad, bydd myfyrwyr bob amser yn gallu gweld y ffeil. Bydd defnyddwyr cwrs sydd wedi galluogi'r dewis Hysbysiad Ffeiliau yn dal i gael hysbysiad pan fydd ffeil yn cael ei hychwanegu at y cwrs os yw’r dewis Dim ond ar gael i fyfyrwyr gyda dolen wedi’i alluogi.
Pan fydd cyfyngiad wedi ei osod ar ddyddiad ar gael myfyrwyr, ni fydd myfyrwyr yn gallu gweld ffeil yn Ffeiliau'r Cwrs y tu allan i'r dyddiadau ar gael. Os yw'r ffeil wedi'i chysylltu ag adran arall o Canvas (fel Modiwlau neu Aseiniadau), bydd myfyrwyr yn gallu gweld enw'r ffeil, ond os byddan nhw'n clicio'r ffeil, byddan nhw'n gweld neges yn dweud bod y ffeil wedi'i chloi ac nad oes modd ei gweld tan y dyddiad dan sylw. Ni fydd defnyddwyr cwrs sydd wedi galluogi’r dewis Hysbysiad Ffeiliau yn derbyn hysbysiad pan fydd ffeil yn cael ei hychwanegu at gwrs os yw cyfyngiad dyddiad argaeledd myfyriwr wedi’i ddewis.
Nodyn: Gallwch hefyd gyfyngu ar ffeil neu ffolder fel rhan o osod hawliau defnyddio ar gyfer ffeiliau neu osod hawliau defnyddio ar gyfer ffolderi.
Agor Ffeiliau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Ffeiliau (Files).
Dewis Ffeil
Yn ddiofyn, mae ffeiliau cyrsiau yn weladwy, wedi’u cyhoeddi ac yn hygyrch i bob defnyddiwr, ac yn dangos eicon wedi cyhoeddi (published) [1]. Mae modd i athrawon a chynorthwywyr dysgu gyfyngu ar ffeiliau a ffolderi [2], sy’n golygu bod y cynnwys ddim ond ar gael i athrawon a chynorthwywyr dysgu ar gwrs, ar yr amod bod y ffeil ddim yn cael ei rhoi mewn adran cynnwys y tu allan i’r adran Ffeiliau (ee Modiwlau, Aseiniadau).
I olygu hawl gweld ffeiliau, cliciwch eicon wedi cyhoeddi neu eicon heb gyhoeddi y ffeil [3].
Nodyn: Os yw’n ofynnol yng ngosodiadau cwrs neu gyfrif, efallai y byddwch chi angen rheoli hawliau i ddefnyddio ffeiliau cyn cyhoeddi [4]. Dysgu am reoli hawliau i ddefnyddio ffeiliau.
Rheoli Opsiynau Gweld yn Ffeiliau Myfyrwyr
Pwrpas yr opsiwn cyfyngu diofyn yw sicrhau nad yw’r ffeil ond ar gael i fyfyrwyr sydd â’r ddolen. Mae’r botwm radio Dim ond ar gael gyda dolen (Only available with link) [1] yn gwneud y ffeil yn agored i fyfyrwyr sy’n cael dolen i’r ffeil. Bydd y ffeil yn cael ei chuddio oddi wrth myfyrwyr yn Ffeiliau’r Cwrs (Course Files).
Sylwch:
- Yr opsiwn i wneud ffeil sydd ond ar gael gyda dolen yn berthnasol i Ffeiliau’r Cwrs (Course Files); os byddwch chi’n ychwanegu’r ffeil at adran arall o Canvas, fel yr Adran Aseiniadau (Assignments) neu Fodiwlau (Modules), bydd pob myfyriwr yn gallu gweld y ffeil.
- Pan mae ffeiliau newydd yn cael eu llwytho i fyny, mae gweladwyedd y ffeil yn cyfateb â’r gosodiad sydd wedi’i nodi yng Ngosodiadau’r Cwrs. Fodd bynnag, gallwch chi glicio’r gwymplen Gweld (Visibility) [2] a dewis opsiwn gweld arall.
Trefnu bod ffeil ar gael i fyfyrwyr
Drwy drefnu bod ffeil neu ffolder ar gael, gallwch chi roi ffenestr amser i fyfyrwyr weld y ffeil. Gall myfyrwyr weld y ffeil yn Ffeiliau’r Cwrs (Course Files) yn ogystal â rhannau eraill o Canvas lle mae'r ffeil wedi'i hychwanegu yn ystod y ffenestr amser. Os bydd myfyrwyr yn ceisio cyrchu'r ffeil y tu allan i'r ffenestr sydd ar gael, ni fydd modd cyrchu’r ffeil.
I osod y dyddiadau y bydd ar gael i fyfyrwyr, cliciwch y botwm radio Trefnu argaeledd (Schedule availability) [1]. Wedyn, rhowch y dyddiad cyntaf y bydd y ffeil ar gael yn y maes Ar gael o (Available From) [2]. Os yw’n berthnasol, rhowch y dyddiad pan na fydd myfyrwyr yn gallu gweld y ffeil yn y maes Ar Gael Tan (Available Until) [3]. Gallwch ddefnyddio'r calendr i roi dyddiad, neu gallwch roi dyddiad eich hun.
I nodi pryd fydd y ffeil ar gael, cliciwch y maes Amser o (From Time) [4]. Yna, rhowch yr amser pan na fydd modd gweld y ffeil yn y maes Ar Gael Tan (Available Until) [5].
Nodyn: Dewisol yw'r meysydd amser a bydd yn nodi 12am yn ddiofyn os ydych chi'n ei adael yn wag.
Diweddaru Ffeil
Cliciwch y botwm Diweddaru (Update).
Gweld Ffeil
Gweld statws cyfyngedig y ffeil. Gallwch hofran dros yr eicon i weld y manylion.